| Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio Diogelu TrC, gwasanaeth riportio dienw pwrpasol sydd wedi’i gynllunio i helpu i fynd i’r afael â lladrad ceblau a metel ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd. |
| Mae lladrad ceblau a metel yn parhau i fod yn broblem ddifrifol i’r rheilffordd, gan achosi oedi, canslo a tharfu ehangach a all atal pobl rhag cyrraedd y gwaith, apwyntiadau, digwyddiadau a chyrchfannau pwysig eraill. Drwy lansio Diogelu TrC, mae Trafnidiaeth Cymru yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r effaith y mae lladrad metel a cheblau yn ei chael ar deithwyr, cymunedau a’r economi ehangach, gan ddarparu ffordd ddibynadwy a dienw i bobl helpu i’w atal. Dywedodd Josh Hopkins, Pennaeth Diogelwch, Risg a Gwytnwch yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch o lansio Diogelu TrC, gan roi ffordd syml a chwbl ddienw i bobl rannu gwybodaeth am ladrad ceblau a metelau sy’n effeithio ar ein rheilffordd. “Gall y math hwn o drosedd gael effaith wirioneddol ar ein cwsmeriaid a’n cymunedau, ac mae’r wybodaeth a ddarperir gan bobl yn gallu chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddiogelu’r rhwydwaith. Rydym yn falch bod Diogelu TrC yn gallu rhoi’r sicrwydd y gellir rhannu gwybodaeth yn ddiogel, yn hyderus ac yn ddienw.” Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am ladrad ceblau neu fetel sy’n effeithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd i gysylltu â Diogelu TrC, boed yn enwau unigolion, disgrifiadau o bobl, dyddiadau ac amseroedd, neu cyfeiriadau What3words ar gyfer leoliadau anghysbell neu wledig. Mae gan bawb rôl i’w chwarae wrth gadw’r rhwydwaith yn ddiogel, a gallai pob darn o wybodaeth wneud gwahaniaeth. Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Diogelu TrC drwy: Galw 0800 756 3477 Cwblhau’r ffurflen ar-lein syml drwy www.TfWProtect.co.uk Codwch eich llais. Arhoswch yn ddienw. Helpwch i gadw Cymru wedi’i chysylltu. |

| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |














