21.5 C
Llanelli
Tuesday, July 28, 2026
Home Rail Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio ‘Diogelu TrC’ i helpu i fynd i’r...

Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio ‘Diogelu TrC’ i helpu i fynd i’r afael â lladrad ceblau a metel ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd

0
74
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio Diogelu TrC, gwasanaeth riportio dienw pwrpasol sydd wedi’i gynllunio i helpu i fynd i’r afael â lladrad ceblau a metel ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.
Mae lladrad ceblau a metel yn parhau i fod yn broblem ddifrifol i’r rheilffordd, gan achosi oedi, canslo a tharfu ehangach a all atal pobl rhag cyrraedd y gwaith, apwyntiadau, digwyddiadau a chyrchfannau pwysig eraill. Drwy lansio Diogelu TrC, mae Trafnidiaeth Cymru yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r effaith y mae lladrad metel a cheblau yn ei chael ar deithwyr, cymunedau a’r economi ehangach, gan ddarparu ffordd ddibynadwy a dienw i bobl helpu i’w atal. Dywedodd Josh Hopkins, Pennaeth Diogelwch, Risg a Gwytnwch yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch o lansio Diogelu TrC, gan roi ffordd syml a chwbl ddienw i bobl rannu gwybodaeth am ladrad ceblau a metelau sy’n effeithio ar ein rheilffordd. “Gall y math hwn o drosedd gael effaith wirioneddol ar ein cwsmeriaid a’n cymunedau, ac mae’r wybodaeth a ddarperir gan bobl yn gallu chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddiogelu’r rhwydwaith. Rydym yn falch bod Diogelu TrC yn gallu rhoi’r sicrwydd y gellir rhannu gwybodaeth yn ddiogel, yn hyderus ac yn ddienw.” Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am ladrad ceblau neu fetel sy’n effeithio ar y rhwydwaith rheilffyrdd i gysylltu â Diogelu TrC, boed yn enwau unigolion, disgrifiadau o bobl, dyddiadau ac amseroedd, neu cyfeiriadau What3words ar gyfer leoliadau anghysbell neu wledig. Mae gan bawb rôl i’w chwarae wrth gadw’r rhwydwaith yn ddiogel, a gallai pob darn o wybodaeth wneud gwahaniaeth. Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Diogelu TrC drwy:
Galw 0800 756 3477
Cwblhau’r ffurflen ar-lein syml drwy www.TfWProtect.co.uk

Codwch eich llais. Arhoswch yn ddienw. Helpwch i gadw Cymru wedi’i chysylltu.
6fa09c459e0a41d5a5a4e2c30a0f05fa

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.