20.6 C
Llanelli
Tuesday, August 4, 2026
Home Aberystwyth Ymchwilio i gŵn fferm a’u cysylltiad â lledaeniad clefyd llyngyr sy’n peryglu...

Ymchwilio i gŵn fferm a’u cysylltiad â lledaeniad clefyd llyngyr sy’n peryglu bywyd 

0
69
Keira Washtell 1

Farm dog spread of life-endangering worm disease investigatedMae astudiaeth arloesol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut y gallai’r rhyngweithio dyddiol rhwng pobl a chŵn yng nghefn gwlad Cymru fod yn helpu llyngyr niweidiol i ledaenu rhwng rhywogaethau.

Er gwaethaf degawdau o ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus, mae’r parasit sy’n gyfrifol am glefyd hydatid yn parhau i fod yn endemig yng nghanolbarth Cymru.  Mae’r rhanbarth yn cael ei gydnabod fel man lle ceir llawer o achosion o’r clefyd, sy’n peri risgiau i les da byw, cynhyrchiant ffermydd, ac iechyd pobl.

Yn y DU, cŵn sy’n rhoi’r cartref terfynol i’r parasit Echinococcus granulosus, ond defaid fel arfer sy’n gwasanaethu fel cyfryngwyr.  Mae cylch bywyd y parasit yn cael ei gynnal pan fydd defaid yn llyncu wyau o ysgarthion cŵn, gan ddatblygu systiau yn eu horganau.  Yna mae’r cŵn yn cael eu hail-heintio trwy fwyta gweddillion neu gael eu bwydo â chig offal defaid sydd wedi eu heintio, gan barhau’r cylch.  

Gall pobl hefyd letya’r parasit yn ddamweiniol – mae’r haint yn anodd iawn i’w drin a gall arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol neu farwolaeth.  Mae hyn yn gwneud presenoldeb y parasit mewn cŵn yn bryder iechyd cyhoeddus.

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys gwaith maes ledled canolbarth Cymru i edrych ar sut mae’r rhyngweithio rhwng pobl a chŵn mewn cymunedau amaethyddol yn dylanwadu ar drosglwyddo’r clefyd hydatid ar draws rhywogaethau. 

Dywedodd yr ymchwilydd Keira Washtell, o Adran y Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’r ymchwil hon yn mynd y tu hwnt i gadw gwyliadwriaeth ar glefydau – mae’n ymwneud â deall sut mae pobl yn cydfyw â chŵn ac yn gofalu amdanynt, a sut mae’r perthnasoedd hynny, y risgiau amgylcheddol a’r risgiau i iechyd cyhoeddus yn croesi ar draws ei gilydd.

“Trwy edrych ar symudiadau cŵn, eu ffordd o fyw a chanfyddiadau pobl yn y gymuned, ein nod yw dod o hyd i strategaethau ymarferol, lleol i leihau trosglwyddiadau milheintiol.”

Bydd ymchwilwyr yn defnyddio coleri GPS i olrhain symudiadau cŵn fferm sy’n crwydro’n rhydd, a dadansoddi samplau o ysgarthion o’r tir ffermio er mwyn ymchwilio i’w dietau.

Bydd tîm y prosiect yn gweithio’n agos gyda ffermwyr, milfeddygon, arbenigwyr iechyd cyhoeddus, a grwpiau o berchnogion cŵn, i gasglu gwybodaeth ynglŷn â pham efallai na fu negeseuon iechyd cyhoeddus blaenorol am glefydau hydatid yn llwyddiannus. 

Ychwanegodd Dr Gwenllian Rees o’r Ysgol Filfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Er bod clefyd Hydatid yn gymharol brin yn y DU heddiw, mae iddo arwyddocâd hanesyddol yng nghanolbarth Cymru ac mae tystiolaeth yn dangos bod y clefyd yn cynyddu unwaith eto sy’n bryder gwirioneddol mewn ardaloedd lle mae ffermio da byw a chysylltiad agos â chŵn gwaith yn rhan o fywyd bob dydd.

“Bydd dull trawsddisgyblaethol y prosiect hwn – gan ddod â’r meysydd daearyddiaeth, parasitoleg, epidemioleg a gwyddoniaeth ymddygiadol ynghyd – yn ein helpu i ddeall a mynd i’r afael yn well ag achosion sylfaenol trosglwyddo clefydau.”

Trwy edrych ar y rhyngweithio rhwng ymddygiad dynol a ffactorau amgylcheddol, mae’r tîm ymchwil yn gobeithio llywio strategaethau rheoli clefydau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus mwy effeithiol, gan gynorthwyo’r ymdrechion i ddileu’r parasit yn y pen draw. 

Mae Dr Andrew Nelson, uwch epidemiolegydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhan o’r prosiect.  Dywedodd:   

“Mae clefyd Hydatid, sy’n gallu achosi systiau yn yr afu neu’r ysgyfaint, yn parhau i fod yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol.  Gall symptomau gymryd blynyddoedd i ddatblygu, sy’n golygu na allwch ddeall y risgiau i’r cyhoedd yn llawn trwy astudio achosion dynol.  Bydd yr ymchwil amlddisgyblaethol hon yn helpu i bontio’r bwlch hwn drwy daflu goleuni ar yr hyn sy’n gyrru’r haint dynol yn yr union gymunedau yng Nghymru sydd fwyaf agored i’r perygl o glefyd hydatid.”

Mae’r ymchwil yn rhan o OneZoo, rhaglen hyfforddiant ddoethurol ledled y DU a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain a Phrifysgol y Frenhines Belfast i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o glefydau milheintiol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.