8.1 C
Llanelli
Saturday, October 17, 2026
Home Business Business News Annog ffermwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad Brexit i helpu i lywio...

Annog ffermwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad Brexit i helpu i lywio eu dyfodol

0
868
Farming Connect
Farming Connect

Mae busnesau fferm yng Nghymru’n cael eu hannog i werthuso eu busnesau, a bod yn barod i wneud newidiadau er mwyn llwyddo yn dilyn Brexit.

 

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Cyswllt Ffermio, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau agored ledled Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach i ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir ynglŷn â’r cynigionaamlinellir yn yr ymgynghoriad ‘Brexit a’n Tir’.

 

Yn ystod y digwyddiad cyntaf yn y gyfres, cafodd ffermwyr a choedwigwyr yn y gynulleidfa eu cynghori i ddechrau cynllunio cyfeiriad eu busnesau at y dyfodol nawr.

 

Dywedodd Gary Haggaty, Pennaeth Is-adran Amaeth – Cynaliadwyedd a Datblygu Llywodraeth Cymru nad oedd disgwyl nes mis Mawrth pan fo’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn syniad doeth.

 

“Mae ansicrwydd ynglŷn â chytundebaumasnach a threfniadau cyllid ar gyfer y dyfodol wrth gwrs, ond peidiwch da chi â disgwyl nes i bethau ddatblygu, os byddwch chi’n cymryd yr agwedd honno, mae’n bosibl y byddech yn ei gadael hi’n rhy hwyr,” meddai wrth bron i 100 o ffermwyr mewn sesiwn holi ac ateb yn ystod y cyfarfod yn Llanfyllin.

 

“Meddyliwch am gyfeiriad eich busnes at y dyfodol a meddyliwch beth sydd angen i chi ei wneud i’w wneud yn wydn.”

 

Pwysleisiodd Mr Haggaty ei bod yn bwysig i ffermwyr gymryd rhan yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygiad amaethyddol er mwyn darparu gwybodaeth i helpu i lywio’r trywydd at y dyfodol. Croesawodd y cyfle i siarad â ffermwyr wyneb i wyneb ynglŷn â’r ymgynghoriad a’r hyn a oedd yn cael ei gynnig.

 

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig system ddwy haen o gefnogaeth i gymryd lle’r Cynllun TaliadSylfaenol (BPS), Glastir a chynlluniau eraill y Rhaglen Datblygu Gwledig.

 

Dywedodd Hugh Morgan, PennaethTaliadau Gwledig Cymru, fod angen diwygio’r system, gan fod ffermwyr yn derbyn taliadau’n seiliedig ar erwau dan y system gefnogaeth bresennol, ac felly nid oes unrhyw gymhelliant i newid systemau amhroffidiol neu i ffermwyr ystyried gwytnwch eu busnesau, marchnadoedd y dyfodol ac arallgyfeirio.

 

Byddai’r cynllun a gynigir i gymryd lle’r BPS, sef y Cynllun CadernidEconomaidd, yn darparu buddsoddiad wedi’i dargedu at gynhyrchiant bwyd, a byddai’r Cynllun NwyddauCyhoeddus yn cynnig taliadau am allbynnau amgylcheddol.

 

“Dylai nifer o ffermwyr allu buddio o’r ddau pe byddent yn dymuno,” meddai Mr Morgan.

 

Dywedodd wrth ffermwyr y byddai dogfenymgynghori fwy manwl gyda thystiolaethgefnogol yn seiliedig ar waith modelu yn cael ei lansio yn ystod gwanwyn 2019.

 

Dywed Euryn Jones, Cyfarwyddwr Amaeth Rhanbarthol HSBC, a siaradwr yn ystod y digwyddiadau, nad oes ganddo unrhyw amheuaeth y byddai’n rhaid i rai ffermydd addasu i sicrhau cadernid a ffyniant ar ôl Brexit. Mae data incwm fferm yn dangos amrediad eang o berfformiad o fewn y sector ac yn dangos y potensial ar gyfer arbedion effeithlonrwydd.

 

Dywedodd Mr Jones y dylai ffermwyr ystyried y ffordd orau i ddefnydd eu hadnoddau fferm ar gyfer y dyfodol. “Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid i unrhyw fusnes fod yn barod i newid”.

 

Cynhelir y gyfres o gyfarfodydd fel a ganlyn:

Rydym ni’n annog mynychwyr i ddarllen y ddogfenymgynghori cyn mynychu’r cyfarfod:https://beta.llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2018-07/brexit-an-tir-ymgynghoriad-dogfen-ymgynghori.pdf

 

25 Medi, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan

 

26 Medi, Ysgol Gyfun BreninHarri VIII, Y Fenni

 

27 Medi, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd

 

4 Hydref, Maes Sioe Llwyn Helyg, Hwlffordd

 

8 Hydref, Stadiwm Liberty, Abertawe

 

9 Hydref, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun

 

10 Hydref, Ysgol David Hughes, Porthaethwy

 

11 Hydref, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd (yn benodol ar gyfer coetir)

 

Cynhelir pob cyfarfod rhwng 7.30pm – 9.30pm

 

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 30 Hydref. Mae archebu eich lle yn hanfodol. Cysylltwch a Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 neu ewch I’n gwefan: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/ymgynghoriad-llywodraeth-cymru-brexit-%C3%A2n-tir


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.