9.6 C
Llanelli
Monday, March 16, 2026
Home Government Mae TUC Cymru yn croesawu llythyr Llywodraeth Cymru at gyflogwyr am waith...

Mae TUC Cymru yn croesawu llythyr Llywodraeth Cymru at gyflogwyr am waith teg

0
943
251360250.jpg.gallery
251360250.jpg.gallery

Mae TUC Cymru wedi croesawu llythyr Llywodraeth Cymru at gyflogwyr sy’n derbyn y Gronfa Cadernid Economaidd, gan eu hatgoffa o’u hymrwymiad i waith teg.

Mae tua 13,000 o fusnesau yng Nghymru wedi elwa o’r Gronfa hyd yma. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod hyn wedi helpu i ddiogelu tua 100,000 o swyddi. Mae pawb sy’n derbyn arian gan y Gronfa yn ymrwymo i egwyddorion y Contract Economaidd, sy’n cynnwys gwaith teg, datgarboneiddio a nodau sgiliau’r gweithlu.

Roedd y llythyr at fusnesau gan Ken Skates MS, Gweinidog yr Economi Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn datgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr, undebau llafur ac eraill i newid bywydau gwaith pobl er gwell fel bod mwy o bobl yn gallu cael gwaith da ac incwm diogel a theg. Fel rhan o hyn, mae’r llywodraeth yn cefnogi ehangu mynediad i undebau llafur a chytundebau cyfunol i helpu i wireddu’r uchelgais o wneud Cymru’n genedl Gwaith Teg, ac mae’n disgwyl i gyflogwyr sy’n cael arian cyhoeddus ganiatáu i undebau llafur gael mynediad a cheisio sefydlu cytundeb cydnabod lle mae gweithwyr yn gofyn amdano.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj: “Rydym yn falch iawn bod y Gweinidog wedi blaenoriaethu mynediad undebau llafur yn ei lythyr at dderbynwyr y Gronfa Cadernid Economaidd. Dyma ddull ‘rhywbeth am rywbeth’ Llywodraeth Cymru ar waith – os ydych yn cael arian cyhoeddus, yna ni ddylech gael unrhyw wrthwynebiadau i undeb llafur gysylltu â’ch gweithlu. Mae ganddo’r potensial i wneud gwaith yn decach i filoedd o bobl ledled y wlad.

“Rydym bob amser wedi dweud, os na fydd cyflogwr yn gadael undeb i mewn, dylai hynny canu clychau larwm. Mae’n arwydd clir bod rhywbeth nad yw’n iawn am eu harferion cyflogaeth. Cydnabu Llywodraeth Cymru hyn ac mae’n amlwg ei bod yn disgwyl i unrhyw un sy’n cael arian cyhoeddus ganiatáu i’w gweithwyr wireddu eu hawliau llafur a’u hawliau dynol yn llawn.”

Ychwanegodd Shavanah Taj: “Mae hwn yn gyfle i ni adeiladu’n ôl yn well. Estyn allan at fwy o weithwyr ledled Cymru gan gynnwys y rhai mewn gweithleoedd anodd eu cyrraedd fel gweithwyr sy’n creu dillad a gweithwyr warws sy’n aml ar delerau ac amodau ansicr. Mae’n gyfle i ni drefnu’r gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd ar draws y diwydiannau celfyddydol, cerddoriaeth, trin gwallt a harddwch. Mae’r Gweinidog wedi gofyn am i’w lythyr gael ei rannu â gweithwyr ac i weithwyr cael eu hannog i ddefnyddio teclyn darganfod undeb y TUC i ddod o hyd i’r undeb llafur cywir ar eu cyfer. Mae’r neges yn syml – os nad ydych eisoes mewn undeb llafur, ymunwch ag un heddiw i wneud eich gweithle yn decach i chi a’ch cydweithwyr.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.