9.1 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Government Y Mentrau Iaith yn gosod eu galwadau ar gyfer etholiad Senedd Cymru...

Y Mentrau Iaith yn gosod eu galwadau ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021

0
470
114674770 seneddchamber13nov19
114674770 seneddchamber13nov19
Play

Ar Dachwedd 26ain mae Mentrau Iaith Cymru yn cyhoeddi dogfen “Y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol”, sef Maniffesto’r Mentrau Iaith ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2021.

Bwriad y ddogfen yw gosod galwadau i bleidiau gwleidyddol eu hystyried wrth arwain tuag at etholiad Senedd Cymru 2021. Mae’n gosod safbwyntiau’r rhwydwaith am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol gan gynnwys ystadegau diweddar gan rwydwaith y Mentrau Iaith. Mae’r ddogfen yn rhoi enghreifftiau o brosiectau cymunedol a masnachol y Mentrau Iaith sy’n cyfrannu tuag at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, i greu cymunedau ffyniannus ac i ddatblygu’r economi leol.

Crëwyd y ddogfen gan Fentrau Iaith Cymru, mudiad cenedlaethol sy’n cefnogi’r rhwydwaith o 22 Menter Iaith lleol. Cafodd y ddogfen ei chyflwyno i staff rhwydwaith y Mentrau Iaith gan Gadeirydd Mentrau Iaith Cymru, Lowri Jones mewn sesiwn ddigidol ar Dachwedd 16eg, 2020.

Dywed Lowri Jones; 

“Mae cynhyrchu a chyflwyno’r ddogfen yn gam pwysig ymlaen, a’r tro cyntaf i ni fel rhwydwaith gyflwyno’r galwadau hyn yn y ffordd hwn ar draws pynciau sy’n berthnasol i’n gwaith amrywiol ni. Mae’r ddogfen yn ffocysu ar y cysylltiad clir rhwng y Gymraeg, y gymuned a’r economi – themâu sy’n cloriannu gwaith y Mentrau Iaith. Mae’n gyfle gwerthfawr iawn i ddod a rhai o’n syniadau, ein galwadau, a’n blaenoriaethau mwyaf ni at eu gilydd i’w cyflwyno mewn ffordd cryno ag effeithiol i amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol.”

Ymhlith y galwadau i wleidyddion a gweinidogion mae gofyn i fuddsoddi i ddatblygu’r Gymraeg yn y byd technoleg digidol, ymestyn safonau’r Gymraeg, i gydweithio ar raglenni Trechu Tlodi ac i greu rhwydwaith o Swyddogion Mentrau Cymdeithasol i sefydlu gweithleoedd cyfrwng Cymraeg.

Yn y flwyddyn ariannol diwethaf derbyniodd y Mentrau Iaith gyfanswm o £2.5 miliwn fel rhan o grant ‘Hybu a Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg’ Llywodraeth Cymru. Llwyddodd y rhwydwaith, drwy gynnal mentrau cymdeithasol, busnesau a phrosiectau eraill, ddenu dros £4 miliwnar ben grantiau’r Llywodraeth gan greu cyfanswm o bron i £7miliwn o drosiant yn 2019/20. Ariennir 72% o swyddi‘r Mentrau Iaith gan ffynonellau tu hwnt i grant Llywodraeth Cymru gyda 254 unigolyn yn cael eu cyflogi ar brosiectau y tu hwnt i waith y grant ‘Hybu a Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg’. Un o’r galwadau pwysicaf sy’n rhan o’r ddogfen yw gofyn am gynyddu isafswm grant pob Menter Iaith unigol i £100,000 ac ychwanegu chwyddiant blynyddol.

Dywed Lowri Jones;  

“Mae gwaith anhygoel yn digwydd i dynnu’r ffynonellau yna i mewn fel ein bod ni ddim yn or-ddibynnol ar un grant yn benodol a bod ein gwaith ni yn amrywiol iawn ac yn cyffwrdd ar nifer o elfennau o fywyd ein cymunedau ni. Mae’r ystadegau’n dangos gwerth am arian rydym yn cynnig i Lywodraeth Cymru a’r potensial i dynnu mwy o gyllid i mewn i’n cymunedau, a’i fuddsoddi mewn gwasanaethau ar eu cyfer nhw.”

Yn ystod cyfnod Ebrill i Medi eleni fe gynhaliodd y rhwydwaith dros 6,800 o ddigwyddiadau digidol gyda dros 750,000 yn cymryd rhan yng ngweithgareddau digidol y Mentrau Iaith. Hoffa Lowri Jones ddiolch i holl staff y rhwydwaith am eu gwaith yn ystod y cyfnod hwn

“Mae’r ystadegau yma yn syfrdanol mewn cyfnod mor heriol, a cyfnod lle oedd gofyn ein bod ni’n newid ein dulliau o weithio yn gyflym iawn ac ymateb i sefyllfa oedd yn newid yn gyson hefyd. Diolch yn fawr iawn i’n swyddogion am eich holl waith.”

Gallwch ddarllen y ddogfen gyfan yn Gymraeg a’n Saesneg ar wefan www.mentrauiaith.cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.