7.9 C
Llanelli
Monday, March 2, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Bwrdd Iechyd i gyhoeddi mesurau ychwanegol i ymdopi â’r galw

Bwrdd Iechyd i gyhoeddi mesurau ychwanegol i ymdopi â’r galw

0
1088
Prince Philip Hospital 2
Prince Philip Hospital 2

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ein hysbytai wedi bod yn gweithredu ar y lefelau uchaf o bwysau brys yn gyson, gydag oedi cynyddol wrth drosglwyddo ambiwlansys, amseroedd aros adrannau brys a nifer y cleifion sy’n aros i gael eu rhyddhau.

Ar hyn o bryd rydym yn trin y nifer uchaf o gleifion mewnol sydd wedi cael cadarnhad o COVID-19 ers dechrau’r pandemig, ac rydym mewn man lle mae’n rhaid i ni gymryd camau brys i leddfu’r pwysau hyn a lliniaru’r risgiau posibl i ansawdd a diogelwch y gofal a ddarparwn i gleifion.

O ganlyniad, o ddydd Llun 21 Rhagfyr ymlaen bydd y Bwrdd Iechyd yn cychwyn mesurau a fydd yn caniatáu inni ryddhau mwy o staff clinigol i gefnogi ymateb COVID 19, cefnogi ein gallu i gleifion mewnol, wrth barhau i ddarparu mynediad at ofal i’r cleifion hynny sydd â’r angen clinigol mwyaf brys.

Byddwn yn blaenoriaethu clinigau cleifion allanol, ymchwiliadau endosgopi, ymyriadau therapiwtig a gweithdrefnau llawfeddygol ar gyfer cleifion sydd â’r canser mwyaf brys ac angen clinigol. Byddwn yn gohirio asesiadau a thriniaethau dros dro i gleifion â chyflyrau llai brys; byddwn yn cysylltu â chleifion os yw eich apwyntiadau / derbyniadau i gael eu canslo – peidiwch ffonio os gwelwch yn dda. Bydd y gwasanaethau brys yn parhau fel arfer.

Bydd y camau a amlinellir yn dod i rym am gyfnod cychwynnol o 4 wythnos o ddydd Llun 21ain Rhagfyr 2020, ac yn cael eu hadolygu yn ystod ail wythnos Ionawr 2021. Os bydd angen eu hymestyn y tu hwnt i’r cyfnod hwn, byddant yn cael eu hadolygu ymhellach yn y cyfnod dilynol mewn ysbeidiau o 3 wythnos.

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn ehangu capasiti yn ein lleoliadau ysbytai maes yn raddol fel rhan o’n hymateb ehangach Covid-19 i’n helpu i reoli gallu a llif cleifion yn well yn ein safleoedd ysbytai acíwt a chymunedol.

Meddai Andrew Carruthers, O ddechrau’r pandemig, mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhagweld a chynllunio ar gyfer yr angen i adleoli staff clinigol i rolau gofal brys a chritigol os oes eu hangen. Bwriad y mesurau yr ydym yn eu cymryd yw amddiffyn cleifion sydd â’r angen clinigol mwyaf brys wrth ganiatáu inni ail-flaenoriaethu staff i liniaru’r risg gynyddol o niwed mewn gofal acíwt ac argyfwng, oherwydd y pwysau yr ydym wedi siarad amdano.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel un Bwrdd Iechyd ac rwy’n hynod falch o’n holl staff am eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad i gadw gwasanaethau allweddol y GIG i redeg, hyd yn oed yn wyneb perygl, ac o dan bwysau a blinder eithafol. Diolch i chi gyd.

Ychwanegodd Mansell Bennett, Cadeirydd Corff Gwarchod Cleifion Lleol, y Cyngor Iechyd Cymunedol: “Mae’n amlwg bod gwasanaethau’r GIG lleol dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Rydym yn deall bod angen gwneud newidiadau dros dro a phenderfyniadau anodd.

“Mae’n amser anodd iawn i staff y GIG sy’n gweithio’n ddyddiol i ddarparu gwasanaethau diogel mewn ysbytai, mewn meddygfeydd yn ogystal ag yn ein cymunedau mewn ystod eang o leoedd. Efallai y bydd angen y gwasanaethau hynny ar bob un ohonom neu efallai ein bod eisoes yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt. Rydym wedi siarad â’r Bwrdd Iechyd yn rheolaidd trwy gydol y pandemig, i fonitro’r sefyllfa fel y mae wedi bod yn newid. Wrth inni agosáu at y Nadolig, mae’r sefyllfa’n dod yn fwy heriol fyth a byddwn yn parhau i wrando ar yr hyn y mae’r cyhoedd yn ei ddweud.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.