17.8 C
Llanelli
Sunday, July 26, 2026
Home Local News Profiad Siaradwyr Cymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ymchwil...

Profiad Siaradwyr Cymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ymchwil Pwysig

0
791

Profiad Siaradwyr Cymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ymchwil Pwysig

Mae Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Gofal Cymru yn awyddus i glywed gan siaradwyr Cymraeg am eu profiad wrth dderbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg. Ac maen nhw wedi comisiynu tîm o ymchwilwyr o’r Ganolfan Cynllunio Iaith i wneud y gwaith.

“Bydd canlyniadau’r gwaith ymchwil pwysig hwn yn cael eu defnyddio i nodi blaenoriaethau,”  meddai Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. “Byddan nhw’n gyrru gwelliannau i’r gwasanaethau erbyn diwedd y flwyddyn eleni.”

Mae ymchwilwyr o’r Ganolfan yn awyddus i siarad â chleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a ffeindio sut brofiad gawson nhw. A oedd hi’n hawdd derbyn gwasanaeth yn Gymraeg neu a oedd rhwystrau? Pa effaith gafodd hynny arnyn nhw? A oedden nhw’n hapus â’r gwasanaeth, neu, a oes ganddyn nhw negeseuon am y ffordd y gellid gwella pethe?

“I nifer o bobl megis plant, pobl hŷn, defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl ac eraill, mae cael gwasanaethau yn y Gymraeg yn fater o angen yn hytrach na dewis,” meddai’r Dirprwy Weinidog. “Yn aml iawn, dim ond trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf y gallan nhw gael eu trin yn effeithiol.”

A dyna pam fod yr ymchwilwyr yn awyddus i glywed am brofiadau sy’n ymwneud â phlant (yn cynnwys therapi iaith a lleferydd), pobl hŷn, pobl â phroblemau iechyd meddwl (yn cynnwys dementia), a phobl ag anableddau dysgu.

“Rydyn ni’n awyddus iawn i ddefnyddwyr neu ofalwyr yn y meysydd hynny gysylltu â ni,” meddai Elaine Davies, sy’n arwain y tîm ymchwil. “Bydd cyfle i bobl gymryd rhan yn yr ymchwil trwy gyfweliad wyneb yn wyneb neu gyfweliad dros y ffôn, ac mae croeso iddyn nhw hefyd gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig – beth bynnag sydd fwyaf hwylus iddyn nhw. Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y cawn ni ymateb gan bobl ledled Cymru. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol.”

Mae hwn yn gyfle pwysig i ddylanwadu ar bolisi a chryfhau’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ym maes iechyd a gofal. “Rwy’n croesawu’r gwaith ymchwil yma ac rwy’n annog Cymry Cymraeg i gymryd rhan,” meddai Gwenda Thomas. “Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gwrando ar lais defnyddwyr y gwasanaethau iechyd a gofal a deall eu gofynion am wasanaethau Cymraeg.”

Am wybodaeth bellach, cysylltwch naill ai ag Elaine Davies ar 01239 711668 (elaine.davies@iaith.eu) neu ag Elin Mair ar 01239 711668 (elin.mair@iaith.eu).


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.