Profiad Siaradwyr Cymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ymchwil Pwysig
Mae Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Gofal Cymru yn awyddus i glywed gan siaradwyr Cymraeg am eu profiad wrth dderbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg. Ac maen nhw wedi comisiynu tîm o ymchwilwyr o’r Ganolfan Cynllunio Iaith i wneud y gwaith.
“Bydd canlyniadau’r gwaith ymchwil pwysig hwn yn cael eu defnyddio i nodi blaenoriaethau,† meddai Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. “Byddan nhw’n gyrru gwelliannau i’r gwasanaethau erbyn diwedd y flwyddyn eleni.â€
Mae ymchwilwyr o’r Ganolfan yn awyddus i siarad â chleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a ffeindio sut brofiad gawson nhw. A oedd hi’n hawdd derbyn gwasanaeth yn Gymraeg neu a oedd rhwystrau? Pa effaith gafodd hynny arnyn nhw? A oedden nhw’n hapus â’r gwasanaeth, neu, a oes ganddyn nhw negeseuon am y ffordd y gellid gwella pethe?
“I nifer o bobl megis plant, pobl hÅ·n, defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl ac eraill, mae cael gwasanaethau yn y Gymraeg yn fater o angen yn hytrach na dewis,†meddai’r Dirprwy Weinidog. “Yn aml iawn, dim ond trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf y gallan nhw gael eu trin yn effeithiol.â€
A dyna pam fod yr ymchwilwyr yn awyddus i glywed am brofiadau sy’n ymwneud â phlant (yn cynnwys therapi iaith a lleferydd), pobl hŷn, pobl â phroblemau iechyd meddwl (yn cynnwys dementia), a phobl ag anableddau dysgu.
“Rydyn ni’n awyddus iawn i ddefnyddwyr neu ofalwyr yn y meysydd hynny gysylltu â ni,†meddai Elaine Davies, sy’n arwain y tîm ymchwil. “Bydd cyfle i bobl gymryd rhan yn yr ymchwil trwy gyfweliad wyneb yn wyneb neu gyfweliad dros y ffôn, ac mae croeso iddyn nhw hefyd gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig – beth bynnag sydd fwyaf hwylus iddyn nhw. Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y cawn ni ymateb gan bobl ledled Cymru. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol.â€
Mae hwn yn gyfle pwysig i ddylanwadu ar bolisi a chryfhau’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ym maes iechyd a gofal. “Rwy’n croesawu’r gwaith ymchwil yma ac rwy’n annog Cymry Cymraeg i gymryd rhan,†meddai Gwenda Thomas. “Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gwrando ar lais defnyddwyr y gwasanaethau iechyd a gofal a deall eu gofynion am wasanaethau Cymraeg.â€
Am wybodaeth bellach, cysylltwch naill ai ag Elaine Davies ar 01239 711668 (elaine.davies@iaith.eu) neu ag Elin Mair ar 01239 711668 (elin.mair@iaith.eu).

Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |