19.5 C
Llanelli
Friday, August 7, 2026
Home Arts and Media Dathlu 150 mlwyddiant Patagonia gyda Huw Edwards

Dathlu 150 mlwyddiant Patagonia gyda Huw Edwards

0
1110
Huw Edwards National Churches Trust
Huw Edwards National Churches Trust

Mae hi’n ganrif a hanner ers i griw o Gymry deithio ar y Mimosa ar draws Môr yr Iwerydd, i chwilio am fywyd newydd yn Ne America. Ac i nodi’r achlysur, mae Huw Edwards yn teithio 7,000 o filltiroedd i ymweld â Phatagonia am y tro cyntaf.

Yn y rhaglen newydd Patagonia Huw Edwards ar S4C, mae Huw yn sgwrsio â rhai o berthnasau’r arloeswyr cynnar oedd yn rhan o un o’r anturiaethau mwyaf anhygoel yn hanes Cymru.

Y bwriad oedd creu cymuned newydd i ddiogelu’r Gymraeg, ond erbyn blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf, roedd mwy o gymunedau yno o wledydd eraill, a’r Cymry felly’n lleiafrif.

Meddai Huw, a glywodd am hanes Patagonia am y tro cyntaf ddeugain mlynedd yn ôl pan yn yr ysgol gynradd yn Llangennech, “Rwyf wedi teithio ar draws y byd fel newyddiadurwr a darlledwr, ond dyma’r tro cyntaf i mi gael y profiad o fywyd Cymreig yn Nhalaith Chubut yn Ne’r Ariannin. Mae cymunedau Chubut a’r Andes yn groesawgar ac yn ddiffuant, yn falch o’u llinach Gymreig ac yn awyddus i greu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r rhaglen ar nos Sul, 31 Mai yn ystyried dyfodol yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn y Wladfa a chawn weld Huw Edwards yn chwarae emyn ar yr organ – offeryn ddaeth i Batagonia ym 1865 gyda’r arloeswyr. Cawn glywed am gyfraniad y Cymry ym Mhatagonia a sut mae cymunedau yno hyd heddiw yn elwa o’u gwaith a’u profiadau.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, “Bydd S4C yn nodi hanes difyr y Cymry a’r rheiny ag etifeddiaeth Gymreig ym Mhatagonia gydag amrywiaeth o raglenni cyffrous, newydd ac archif cyfoethog. Mae rhaglen ddogfen Huw Edwards, un o ddarlledwyr mwyaf blaenllaw ein cenhedlaeth, yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod yn ein tymor dathlu’r glaniad ym mis Gorffennaf. Rydym ni wrth ein bodd i gael cydweithio yn agos gyda’r BBC a nifer o gyrff eraill i wneud hwn yn ddathliad rhyngwladol bythgofiadwy.”

Mae dathliadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru a Phatagonia i nodi’r flwyddyn arbennig hon ac yn ogystal â rhaglen Patagonia Huw Edwards ar S4C, darlledir Patagonia with Huw Edwards ar BBC1 Wales nos Lun, 1 Mehefin.

Patagonia Huw Edwards
Nos Sul 31 Mai 8.00, S4C

Hefyd, dydd Llun 1 Mehefin, 3.00 a dydd Mercher 3 Mehefin 10.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad BBC Cymru 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.