11.5 C
Llanelli
Saturday, August 8, 2026
Home News Sports News Dilynwch Bencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd – yn fyw ar S4C

Dilynwch Bencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd – yn fyw ar S4C

0
917
S4C logo 2014.svg
S4C logo 2014.svg

Mae Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn cael ei darlledu ar S4C – gyda holl gemau Cymru ar gael i’w gwylio’n fyw.

Mae’r sianel deledu wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu’r bencampwriaeth yn 2015 a 2016 drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac fe fydd S4C yn darlledu’r gêm rhwng Cymru a Japan yn fyw ar nos Fercher, 10 Mehefin (cic gyntaf, 5.15pm) yn ystod yr wythnos hon.

Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yw’r gystadleuaeth sy’n dangos y safon uchaf o gystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol o dan 20 oed.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Yr Eidal eleni, gyda’r ffeinal ar Fehefin 20, gêm y bydd S4C yn ei darlledu’n fyw.

Bydd gemau eraill Cymru yn y bencampwriaeth hefyd yn cael eu darlledu’n fyw, ond mae pwy fydd y gwrthwynebwyr hynny’n dibynnu ar y canlyniadau blaenorol.

Bydd Gareth Roberts yn cyflwyno’r rhaglenni o’r digwyddiad rhyngwladol dan 20, a bydd Cennydd Davies a Gareth Rhys Owen yn sylwebu ar y gemau, yn ogystal â phersonoliaethau eraill profiadol o’r byd rygbi fydd yn rhannu eu harbenigedd a’u dadansoddiad o’r gêm.

Mae Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn rhan enfawr o flwyddyn o rygbi ar S4C. Yn ystod mis Medi yma fe fydd y sianel hefyd yn gyfrifol am ddarlledu ymgyrch carfán Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2015. Ond mae Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn gyfle i wylio sêr y dyfodol.

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C, “Mae rygbi dan 20 wedi newid gêr dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi symud o fod yn gyfle ar gyfer datblygu chwaraewyr, i fod yn ddigwyddiad o bwys. Mae gan gynulleidfa rygbi S4C ddisgwyliadau uchel – ac erbyn hyn mae’r gemau dan 20 yn cael eu hystyried fel gornestau atyniadol a deniadol. Rydym ni’n hynod falch i allu darlledu Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn fyw ar S4C.”

Dywed Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, “Rydyn ni wrth ein boddau bod S4C yn darlledu holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn ystod y mis nesaf. Mae ymrwymiad o’r math yma gan ein partner darlledu yn dangos pa mor bwysig yw rygbi dan 20 yng Nghymru i S4C. Dyma elfen allweddol o strategaeth Undeb Rygbi Cymru fydd yn datblygu chwaraewyr o’r safon uchaf i chwarae i’r timau rhanbarthol a chenedlaethol.”

Dywed Murray Barnett, Pennaeth Masnachol, Darlledu a Marchnata World Rugby, “Rydym ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth gyda S4C – darlledwr sydd yn hynod angerddol am rygbi ac am y bencampwriaeth hon. “Mae’r bencampwriaeth yn addo bod yn ddigwyddiad cyffrous iawn yn yr Eidal eleni, lle bydd sêr y dyfodol yn gallu arddangos eu talent yn ystod blwyddyn enfawr ar gyfer rygbi.”

Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd: Cymru v Japan
Dydd Mercher 10 Mehefin, 5.15 ar S4C 

Ar alw: s4c.cymru/clic

Gwefan: s4c.cymru

Cynhyrchiad Sunset + Vine Cymru ac SMS ar gyfer S4C


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.