Choose Well this Christmas
People in Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire are being encouraged to look after themselves and their families, and help the NHS, by getting themselves ready for Christmas.
The presents may be under the tree and the turkey ready for the big day, but doctors, pharmacists and other health professionals are urging people to think about their health and well being as well. This includes those in at risk groups getting their flu immunisations, drinking sensibly, ordering repeat prescriptions in good time, and making sure medicine cabinets at home are appropriately stocked ahead of the Bank Holidays.
The Choose Well guidance can also help people choose the right health service to best meet their individual needs – and to ensure emergency services are there for when we need them most. For example, did you know your local Pharmacist can give you free, confidential advice, support and treatment on a range common ailments and any emergency medicine you may need without booking an appointment? The list of common ailments can be found at http://www.hywelddahb.wales.nhs.uk/communitypharmacy
Some community pharmacies also now offer a Triage and Treat service to help you if you have had a low level injury and will save you a visit to a doctor or a hospital accident and emergency department. The types of injuries that can be treated in the pharmacy under this service without an appointment are minor abrasions, superficial cuts and wounds, sprains and strains, eye complaints such as sand in the eye, removal of items from the skin such as a splinter or shell and minor burns.
You can find out more information from the website, where a free mobile phone app is available, which provides a GPS facility to locate the nearest services to you, as well as information leaflets with local contact numbers www.hywelddahb.wales.nhs.uk/choosewell
You can also print out this handy list of local pharmacy opening times over the Bank Holidays: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/46867
Hywel Dda University Health Board’s Assistant Director of Primary Care, and lead for Choose Well, Elaine Lorton said: “Making the right choice about which healthcare service to use helps people get treated faster in the most appropriate way, and also means health service resources are being used where they are needed most. Many of our services are provided 24/7 but some are more limited over the Bank Holidays and we would encourage you to familiarise yourselves with the key contacts before you need them.”
In a healthcare emergency which is life threatening, you should call 999 and they will take you to the Emergency Department which can best meet your needs.
If you are unwell and need to contact a GP out of hours, you should contact your usual GP phone number and will be automatically transferred to the out-of-hours service. If you don’t know where to go or what service you need, you can call NHS Direct Wales on 0845 46 47 (or dial 111 if you are a patient in Carmarthenshire).
If you need any urgent dental care over the Christmas period you can contact your dental practice to access advice and care. If you do not have access to a dental practice, please contact NHS Direct on 0845 4647 (or dial 111 if you are a patient in Carmarthenshire) where an appointment can be arranged for you if required.
For urgent social care out of hours, contact:
Carmarthenshire – 01558 824283
Ceredigion – 0845 6015392
Pembrokeshire – 08708 509508
If you are worried about the way you are feeling or behaving, or you are struggling to manage on your own, don’t be afraid to ask for help. Speak to your GP or ring the C.A.L.L. Mental Health Helpline on 0800 132 737, text ‘help’ to 81066 or visit www.callhelpline.org.uk
Hywel Dda Health Board’s clinical lead for unscheduled care, consultant Jeremy Williams, explained: “Many people attending our Emergency Departments are very sick and are attending appropriately, but some have conditions of a lesser severity, which would be best assessed and treated by other health care providers.
The best way the public can assist the NHS is to ensure they and their families are using health services appropriately. This will mean they are seen by the most appropriate person, in the quickest time possible, avoiding delays for themselves and others, and ultimately helping us to save lives.”
Dewis Doeth y Nadolig hwn
Mae pobl yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu hannog i ofalu amdanynt eu hunain a’u teuluoedd, ac i helpu’r GIG, a hynny trwy eu paratoi eu hunain ar gyfer y Nadolig.
Efallai bod yr anrhegion o dan y goeden, a’r twrci’n barod ar gyfer y diwrnod mawr, ond mae meddygon, fferyllwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn annog pobl i feddwl am eu hiechyd a’u lles yn ogystal. Mae hyn yn cynnwys y rheiny sydd mewn grwpiau risg yn cael eu brechu rhag y ffliw, yfed mewn modd synhwyrol, archebu presgripsiynau amlroddadwy mewn da bryd, a sicrhau bod cypyrddau moddion gartref wedi’u stocio’n dda cyn y Gwyliau Banc.
Gall y canllawiau Dewis Doeth hefyd helpu pobl i ddewis y gwasanaethau iechyd cywir er mwyn diwallu eu hanghenion iechyd unigol eu hunain – ac i sicrhau bod y gwasanaethau brys ar gael pan fydd arnom eu hangen fwyaf. Er enghraifft, a wyddech chi fod eich Fferyllydd lleol yn gallu rhoi cyngor, cymorth a thriniaeth gyfrinachol i chi ar gyfer amrywiaeth o fân anhwylderau, yn ogystal ag unrhyw feddyginiaeth frys a allai fod arnoch ei hangen, a hynny’n rhad ac am ddim a heb orfod gwneud apwyntiad? Mae’r rhestr o fân anhwylderau i’w gweld yn http://www.hywelddahb.wales.nhs.uk/communitypharmacy
Mae rhai fferyllfeydd cymunedol bellach yn cynnig gwasanaeth Brysbennu a Thrin hefyd, a hynny i’ch helpu os byddwch wedi cael anaf lefel isel. Bydd hyn yn arbed ymweliad â’r meddyg neu adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty. Mae’r mathau o fân anafiadau y gellir eu trin yn y fferyllfa o dan y gwasanaeth hwn, a hynny heb apwyntiad, yn cynnwys mân grafiadau, toriadau a chlwyfau arwynebol, ysigiadau a streifiadau, cwynion am y llygaid, er enghraifft tywod yn y llygaid, tynnu eitemau o’r croen, er enghraifft fflawiau, a mân losgiadau.
Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar y wefan, lle mae rhif ffôn symudol ac ap rhad ac am ddim ar gael, sy’n darparu cyfleuster meddygon teulu er mwyn dod o hyd i’r gwasanaethau sydd agosaf atoch, yn ogystal â thaflenni gwybodaeth â rhifau cyswllt lleol www.hywelddahb.wales.nhs.uk/choosewell
Gallwch hefyd argraffu’r rhestr ddefnyddiol hon o amserau agor y fferyllfeydd lleol dros y Gwyliau Banc: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/56476
Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gwneud y dewis doeth ynghylch pa wasanaeth gofal iechyd i’w ddefnyddio yn helpu pobl i gael eu trin yn gynt ac yn y modd mwyaf priodol, ac mae hefyd yn golygu bod adnoddau’r gwasanaeth iechyd yn cael eu defnyddio lle mae arnynt eu hangen fwyaf. Mae llawer o’n gwasanaethau ar gael drwy’r dydd, bob dydd, ond mae yna fwy o gyfyngiadau ar rai o’r gwasanaethau dros y Gwyliau Banc, ac rydym yn eich annog chi a’ch teuluoedd i ymgyfarwyddo â’r cysylltiadau allweddol cyn y bydd arnoch eu hangen.”
Mewn achos gofal iechyd brys sy’n peryglu bywyd, dylech ffonio 999, a byddwch yn cael eich trosglwyddo i’r Adran Frys a fydd yn gallu diwallu eich anghenion yn y ffordd orau.
Os byddwch yn anhwylus, ac os bydd arnoch angen cysylltu â’r meddyg teulu y tu allan i oriau, dylech gysylltu â rhif ffôn arferol eich meddyg teulu, a byddwch yn cael eich trosglwyddo’n awtomatig i’r gwasanaeth y tu allan i oriau. Os na fyddwch yn gwybod lle i fynd, neu ba wasanaeth y bydd arnoch ei angen, gallwch ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 (neu ddeialu 111 os ydych yn glaf yn Sir Gaerfyrddin).
Os bydd arnoch angen gofal deintyddol brys dros gyfnod y Nadolig, gallwch gysylltu â’ch deintyddfa i gael cyngor a gofal. Os na fydd gennych fynediad i ddeintyddfa, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 (neu ddeialu 111 os ydych yn glaf yn Sir Gaerfyrddin), lle bydd apwyntiad yn gallu cael ei drefnu ar eich cyfer, os bydd angen.
I gael gofal cymdeithasol brys y tu allan i oriau, cysylltwch â’r canlynol:
Sir Gaerfyrddin – 01558 824283
Ceredigion – 0845 6015392
Sir Benfro – 08708 509508
Os byddwch y pryderu ynghylch sut yr ydych yn teimlo neu’n ymddwyn, neu os byddwch yn brwydro i ymdopi ar eich pen eich hun, peidiwch â bod ofn gofyn am help. Siaradwch â’ch meddyg teulu, neu ffoniwch Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L. ar 0800 132 737, tecstiwch ‘help’ i 81066 neu ewch i www.callhelpline.org.uk
Eglurodd Jeremy Williams, arweinydd clinigol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu: “Mae nifer o bobl sy’n mynd i’n Hadrannau Brys yn sâl iawn ac yn mynd yno’n briodol, ond mae gan rai gyflyrau sy’n llai difrifol, ac a allai gael eu hasesu a’u trin gan ddarparwyr gofal iechyd eraill.
Y ffordd orau y gall y cyhoedd gynorthwyo’r GIG yw trwy sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn defnyddio’r gwasanaeth iechyd mewn modd priodol. Bydd hyn yn golygu y byddant yn cael eu gweld gan yr unigolyn mwyaf priodol, yn yr amser cyflymaf posibl, gan osgoi oedi o’u rhan nhw eu hunain ac eraill, ac, yn y pen draw, helpu i achub bywydau.”
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |















