Tour of Britain – key viewing points | Taith Prydain – mannau gwylio allweddol

0
901
Big Bike02 main image 2
Big Bike02 main image 2

Tour of Britain – key viewing points

 

WITH only days to go until the Tour of Britain’s Grand Depart at Pembrey Country Park excitement is racing through the county.

Local communities have gone above and beyond to celebrate the biggest professional cycling race coming to Carmarthenshire on September 2 for the first time from decorating their villages with bunting to organising a day of activities for all the family.

Spectators are expected to come from far and wide to follow the world famous cyclists which includes the Tour de France winner Geraint Thomas and his Sky team mate, Chris Froome. There will be several great viewing points across the county which includes Pembrey Country Park, Carmarthen and Llandovery.

Pembrey are holding a ‘festival of cycling’ which begins on Saturday September 1.

There will be cycling activities throughout the weekend for all ages and an opportunity for everyone to join in the land art activity with live music performed in the evening on the sage. Pembrey Country Park have their very own ‘Gwair Geraint’ which is an ideal spot to watch the race travel through the county on the big screen.

County Hall Carmarthen will be another key viewing point for spectators with plenty of opportunities to grab a selfie with the big green bike. Radio Carmarthenshire will be broadcasting live form County Hall along with activities such as crazy golf, face painting, and Carmarthen castle tours.

There won’t be parking charges at any Carmarthenshire County Council car park that is on the Tour of Britain route, except for County Hall as it will be used as a viewing point.

Llandovery are holding a family fun day that includes road and cycling safety activities, general stalls in Market Square, bicycle competitions, choir and band performances.

There will be a children’s competition for the best decorated and painted bike and a display of vintage bicycles.

Kidwelly, Llanarthne, Ffairfach and Bethlehem communities have prepared events for the Tour of Britain and details of these events are on the Discover Carmarthenshire website.

Cllr Peter Hughes Griffiths, executive board member for Culture, Sport and Tourism, said: “This is a very exciting time for Carmarthenshire as we welcome the Tour of Britain for the first time. It has been great to see the local communities pulling together and preparing the warmest of welcome.”

  • Community events information found on DiscoverCarmarthenshire.com
  • Road closure and parking information are on newsroom.carmarthenshrie.gov.wales
  • Follow @CarmsCouncil on Twitter

Taith Prydain – mannau gwylio allweddol

 

GYDA dim ond diwrnod i fynd hyd nes i Grand Depart Taith Prydain ddechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre mae’r cyffro yn rasio drwy’r sir.

Mae cymunedau lleol wedi mynd i ysbryd y digwyddiad i ddathlu bod y ras seiclo broffesiynol fwyaf yn dod i Sir Gaerfyrddin ar 2 Medi am y tro cyntaf drwy addurno eu pentrefi â baneri a threfnu diwrnod o weithgareddau ar gyfer yr holl deulu.

Disgwylir i wylwyr ddod o bell ac agos i ddilyn y beicwyr byd enwog sy’n cynnwys enillydd y Tour de France Geraint Thomas a’i gyfaill ar dîm Sky, Chris Froome.

Bydd nifer o fannau gwylio delfrydol ledled y sir sy’n cynnwys Parc gwledig Pen-bre, Caerfyrddin a Llanymddyfri.

Mae Pen-bre yn cynnal ‘gŵyl feicio’ a fydd yn dechrau ddydd Sadwrn 1 Medi.

Yna cynhelir gweithgareddau beicio drwy gydol y penwythnos ar gyfer pob oedran gan roi cyfle i bawb i ymuno yn y gweithgaredd celf tir gyda cherddoriaeth fyw gyda’r nos ar y llwyfan.

Ceir ‘Gwair Geraint’ ym Mharc Gwledig Pen-bre sy’n lle delfrydol i wylio’r ras yn teithio drwy’r sir ar y sgrin fawr.

Bydd Neuadd y Sir Caerfyrddin yn fan allweddol arall i wylwyr gyda digon o gyfleoedd i gael hun-lun gyda’r beic mawr gwyrdd. Bydd Radio Sir Gâr yn darlledu’n fyw o Neuadd y Sir ynghyd â gweithgareddau megis golff gwallgof, paentio wynebau, a theithiau o gwmpas Castell Caerfyrddin.

Ni fydd taliadau parcio yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Sir Caerfyrddin sydd ar lwybr Taith Prydain, ac eithrio Neuadd y Sir oherwydd bydd yn cael ei ddefnyddio fel man gwylio.

Mae Llanymddyfri yn cynnal diwrnod hwyl i’r teulu sy’n cynnwys gweithgareddau diogelwch ar y ffyrdd a diogelwch beicio, stondinau cyffredinol yn Sgwâr y Farchnad, cystadlaethau beic, perfformiadau gan gorau a bandiau. Bydd cystadleuaeth i blant am y beic sydd wedi’i beintio a’i addurno orau ac arddangosfa o hen feiciau.

Mae cymunedau Cydweli, Llanarthne, Ffair-fach a Bethlehem wedi paratoi digwyddiadau ar gyfer Taith Prydain ac mae manylion y digwyddiadau hyn ar wefan Darganfod Sir Gâr.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n gyfnod cyffrous iawn i Sir Gaerfyrddin wrth i ni groesawu Taith Prydain am y tro cyntaf. Mae wedi bod yn wych gweld grwpiau a chymunedau lleol yn dod at ei gilydd ac yn paratoi i roi croeso cynnes.”

  • Ceir gwybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol ar wefan darganfodsirgar.com
  • Ceir gwybodaeth am gau ffyrdd a pharcio ar wefan newyddion.sirgar.llyw.cymru
  • Dilynwch @CarmsCouncil ar Trydar

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here