18.2 C
Llanelli
Thursday, September 3, 2026
Home Local News Gweinidog yn gweld gofal integredig ar waith

Gweinidog yn gweld gofal integredig ar waith

0
600
Carmarthenshire County Council colour e1426418362321
Carmarthenshire County Council colour e1426418362321

BYDD Huw Irranca-Davies, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn ymweld ag Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yfory (20 Medi, 2018) i gwrdd â chleifion sydd wedi elwa o fuddsoddiad mewn gofal integredig.

Bydd y Gweinidog yn galw i weld y Tîm Ymateb Acíwt sydd yn cefnogi cleifion i aros yn eu cartrefi am hirach neu’n helpu i ryddhau pobl yn gynharach o’r ysbyty a hynny drwy roi meddyginiaethau drwy wythïen a thriniaethau tebyg iddynt.

Caiff gwaith y tîm ei ariannu gan Gronfa Gofal Integredig. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £6.5miliwn mewn cyllid refeniw i Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru er mwyn cefnogi modelau blaengar ac integredig o ofal fel y Tîm Ymateb Acíwt.

Mae’n ysgogydd allweddol o ran symud gofal yn agosach i gartref, yn unol â Strategaeth Cymru Iachach a gafodd ei chyhoeddi ym mis Mehefin gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd a’r Gweinidog.

Bydd Mr Irranca-Davies yn ymuno â Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru yn Sir Gaerfyrddin yn nes ymlaen.  Mae’r Bwrdd yn dod â gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid eraill ynghyd i ddarparu gofal integredig.

Dywedodd Huw Irranca Davies: “Trwy ‘Cymru Iachach’, sef ein cynllun tymor hir ar gyfer GIG Cymru, rydym eisiau gweld llai o ddibyniaeth ar ysbytai a mwy o ofal yn agosach i gartref. Mae’r Tîm Ymateb Acíwt yn enghraifft wych o’r cynllun hwn ar waith ac mae’n dda cael cyfle i weld ac i glywed, o lygad y ffynnon, am y manteision y mae’r tîm yn eu cynnig i gleifion.

“Rwy’n blês bod y tîm yn un o’r cynlluniau i gael budd o’r Gronfa Gofal Integredig. Rydym wedi darparu £6.5miliwn drwy’r Gronfa i brosiectau yng Ngorllewin Cymru, sy’n cefnogi pobl i aros yn annibynnol ac i dderbyn gofal yn agosach i gartref ac yn sgil hynny, lleihau’r pwysau ar wasanaethau hanfodol y GIG a gofal cymdeithasol.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru: “Rydym wrth ein boddau bod y Gweinidog yn ymweld â ni i weld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn newid bywydau pobl yng ngorllewin Cymru.

“Trwy’r Gronfa Gofal Integredig, rydym wedi gallu ailfodelu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod darpariaeth ddi-fwlch rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a fydd yn y pen draw o fantais i’r cleifion ac yn cefnogi gwellhad cyflymach a lle bo’n bosibl, yng nghyfforddusrwydd eu cartref.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.