How would you get rid of an old kitchen knife?
That’s the question from Dyfed-Powys Police during a national week of action to tackle knife crime.
The campaign, known as Operation Sceptre, runs from September 16 to 22 and aims to keep knives and blades out of circulation, while also increasing awareness about the dangers of carrying knives.
During the week, people are being encouraged to leave unwanted knives in amnesty bins at police stations across Carmarthenshire, Ceredigion, Pembrokeshire and Powys.
The force also wants people to know how to safely dispose of knives and blades outside of the amnesty period, and urges anyone involved in a household clearance, or those who would consider leaving knives at a charity shop, to instead bring them to a recycling centre for safe disposal.
Inspector for specialist operations, Tim Davies, said: “Dyfed-Powys remains a safe place to live, work and visit, and thankfully we don’t face the level of knife crime other areas see. For this campaign we are changing our approach to focus on keeping knives that could travel to other areas, out of criminal hands.
“It can be difficult to know the right thing to do with an old knife when you buy a new set, or inherit them from a relative. We want anyone involved in household clearances, people with elderly relatives, and charity shops, to know they can take unwanted or donated knives to the tip.”
The force is also encouraging a common sense approach to selling knives and blades, after credit card blades were handed in to them during the last amnesty, in March 2019.
When officers visited a store in Haverfordwest, they were presented with a box containing 42 black plastic items around the size of a credit card. On opening the card, a hidden blade was revealed which could lock in place. Knives with a lockable blade are illegal to carry, so officers took the items away to be destroyed.
Insp. Tim Davies said: “Many types of blades are legal to sell, but have a questionable purpose. We will be working with retailers to discuss the law, and what is sensible.
“We will also be working with schools, colleges and youth clubs to reinforce the message about the dangers of carrying knives among young people.
“Carrying a knife is a crime which brings that added risk that a minor issue can escalate into something much more serious and potentially life changing.
“The damage caused by knives, not just to the victim and their families, but also to the wider community, can be devastating. We will be doing all we can to keep knives out of the wrong hands.
“While Dyfed-Powys has not experienced the high volume of knife-related incidents seen in other forces, we are supporting our police colleagues nationally by taking part in Operation Sceptre.
“Our force has a lower rate of knife crime than the national average – in the year ending March 2018, there were 31 crimes involving knives per 100,000 of the population in Dyfed-Powys. Across Wales, this figure stands at 37, and nationally there were 69 knife crimes per 100,000 people during the same period.”
For more information about Operation Sceptre and the laws around carrying knives, visit www.dyfed-powys.police.uk.
To find the nearest recycling centre, visit your local council’s website:
- Carmarthenshire County Council: https://www.carmarthenshire.gov.wales
- Ceredigion County Council: https://www.ceredigion.gov.uk/
- Pembrokeshire County Council: https://www.pembrokeshire.gov.uk/
- Powys County Council: https://www.powys.gov.uk/
Knife surrender bins will be located at the following police stations between September 16 and 22:
| Station | Opening Times |
| Llanelli Police Station | Monday to Friday, 9am to 5pm |
| Carmarthen Police Station | Monday to Friday, 9am to 5pm |
| Ammanford Police Station | Monday to Friday, 8am to 6pm
Saturday and Sunday 9am to 5pm |
| Haverfordwest Police Station | Monday to Friday, 8am to 5pm
Saturday and Sunday 9am to 1pm |
| Pembroke Dock Station | Monday to Friday, 9am to 5pm |
| Aberystwyth Police Station | Monday to Friday, 8am to 6pm
Saturday and Sunday, 9am to 5pm (Closed 1pm to 1.40pm) |
| Cardigan Police Station | Monday to Friday, 9am to 5pm
(Closed 1pm to 1.40pm) |
| Brecon Police Station | Monday to Sunday, 9am to 5pm |
| Newtown Police Station | Monday to Friday, 8am to 6pm
Saturday and Sunday, 9am to 5pm |
| Llandrindod Wells Police Station | Monday to Friday, 9am to 5pm |
Sut fyddech chi’n cael gwared ar hen gyllell cegin?
Dyna yw’r cwestiwn gan Heddlu Dyfed-Powys yn ystod wythnos genedlaethol o weithredu ar gyfer mynd i’r afael â throseddau cyllyll.
Mae’r ymgyrch, sef Ymgyrch Sceptre, yn rhedeg o 16 – 22 Medi ac mae’n anelu i gael gwared ar gyllyll a llafnau, ac ar yr un pryd, cynyddu ymwybyddiaeth am beryglon cario cyllyll.
Yn ystod yr wythnos, mae pobl yn cael eu hannog i adael cyllyll diangen mewn biniau amnest mewn gorsafoedd heddlu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae’r heddlu hefyd eisiau i bobl wybod sut i gael gwared ar lafnau a chyllyll yn ddiogel y tu allan i’r cyfnod amnest, ac yn annog unrhyw un sy’n gysylltiedig â chliriad tŷ, neu’r rhai a fyddai’n ystyried gadael cyllyll mewn siop elusen, i fynd â nhw i ganolfan ailgylchu yn lle hynny er mwyn cael gwared arnynt yn ddiogel.
Dywedodd Tim Davies, Arolygydd ar gyfer gweithrediadau arbenigol: “Dyfed-Powys yw’r lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef, o hyd, ac wrth lwc, dydyn ni ddim yn wynebu’r lefel o droseddau cyllyll mae ardaloedd eraill yn gweld. Ar gyfer yr ymgyrch hon, rydyn ni’n newid ein hymagwedd er mwyn canolbwyntio ar gadw cyllyll a allai deithio i ardaloedd eraill allan o ddwylo troseddwyr.
“Gall fod yn anodd gwybod beth yw’r peth iawn i’w wneud â hen gyllell pan rydych chi’n prynu set newydd, neu’n eu hetifeddu gan berthynas. Rydyn ni eisiau i unrhyw un sy’n gysylltiedig â chliriadau tŷ, pobl â pherthnasau oedrannus, a siopau elusen, i wybod eu bod nhw’n medru mynd â chyllyll diangen neu gyllyll maen nhw wedi’u derbyn i’r tip.”
Mae’r heddlu hefyd yn annog ymagwedd synnwyr cyffredin tuag at werthu cyllyll a llafnau, ar ôl iddynt dderbyn llafnau cerdyn credyd yn ystod yr amnest diwethaf ym mis Mawrth 2019.
Pan ymwelodd swyddogion â siop yn Hwlffordd, cyflwynwyd blwch iddynt a oedd yn cynnwys 42 o eitemau plastig du tua maint cerdyn credyd. Wrth agor y cerdyn, datgelwyd llafn cudd yr oedd modd ei gloi mewn lle. Mae’n anghyfreithlon cario cyllyll â llafn y gellir ei gloi, felly cymerodd swyddogion yr eitemau i ffwrdd i gael eu difa.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Davies: “Mae’n gyfreithlon gwerthu sawl math o lafn, er bod eu diben yn amheus. Byddwn ni’n gweithio gyda masnachwyr er mwyn trafod y gyfraith, a’r hyn sy’n synhwyrol.
“Byddwn ni hefyd yn gweithio gydag ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid er mwyn atgyfnerthu’r neges am beryglon cario cyllyll ymysg pobl ifainc.
“Mae cario cyllell yn drosedd sydd hefyd yn creu’r perygl ychwanegol y gallai mater bychan dyfu’n rhywbeth llawer mwy difrifol a allai o bosibl newid cwrs bywyd.
“Gall y niwed a achosir gan gyllyll, nid yn unig i’r dioddefwyr a’u teuluoedd, ond hefyd i’r gymuned ehangach, fod yn enbyd. Byddwn yn gwneud pob peth y gallwn i gadw cyllyll allan o’r dwylo anghywir.
“Er nad yw Dyfed-Powys wedi gweld y lefelau uchel o ddigwyddiadau’n gysylltiedig â chyllyll a welwyd gan heddluoedd eraill, byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr yn heddluoedd ar draws Prydain drwy gymryd rhan yn Ymgyrch Spectre.
“Mae gan ein heddlu gyfradd troseddu is na’r cyfartaledd cenedlaethol – yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, bu 31 trosedd yn ymwneud â chyllyll fesul 100,000 o’r boblogaeth yn Nyfed-Powys. Ledled Cymru, mae’r ffigwr hwn yn sefyll ar 37, ac ym Mhrydain, bu 69 o droseddau cyllyll fesul 100,000 o bobl yn ystod yr un cyfnod.”
I gael mwy o wybodaeth ynghylch Ymgyrch Spectre a’r cyfreithiau ynghylch cario cyllyll, ewch at www.dyfed-powys.police.uk.
Galwch heibio i wefan eich cyngor lleol er mwyn dod o hyd i’r ganolfan ailgylchu agosaf:
- Cyngor Sir Gaerfyrddin: https://www.carmarthenshire.gov.wales
- Cyngor Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/
- Cyngor Sir Benfro: https://www.pembrokeshire.gov.uk/
- Cyngor Powys: https://www.powys.gov.uk/
Bydd biniau ildio cyllyll yn y gorsafoedd heddlu canlynol rhwng 16 a 22 Medi:
| Gorsaf | Oriau Agor |
| Gorsaf Heddlu Llanelli | Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h. |
| Gorsaf Heddlu Caerfyrddin | Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h. |
| Gorsaf Heddlu Rhydaman | Dydd Llun i ddydd Gwener, 8y.b. tan 6y.h.
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9y.b. tan 5y.h. |
| Gorsaf Heddlu Hwlffordd | Dydd Llun i ddydd Gwener , 8y.b. tan 5y.h.
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9y.b. tan 1y.h. |
| Gorsaf Doc Penfro | Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h. |
| Gorsaf Heddlu Aberystwyth | Dydd Llun i ddydd Gwener, 8y.b. tan 6y.h.
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9y.b. tan 5y.h. (Ar gau o 1y.h. tan 1.40y.h.) |
| Gorsaf Heddlu Aberystwyth | Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h. (Ar gau o 1y.h. tan 1.40y.h.) |
| Gorsaf Heddlu Aberhonddu | Dydd Llun i ddydd Sul, 9y.b. tan 5y.h. |
| Gorsaf Heddlu’r Drenewydd | Dydd Llun i ddydd Gwener, 8y.b. tan 6y.h.
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 9y.b. tan 5y.h. |
| Gorsaf Heddlu Llandrindod | Dydd Llun i ddydd Gwener, 9y.b. tan 5y.h. |
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |




















