Apel: Rydym yn ymchwilio i honiad o ymosodiad a ddigwyddodd ym maes parcio bwyty McDonald’s, Trostre, Llanelli, tua 11.30y.h. ar 11 Gorffennaf 2020.
Roedd pedwar dyn wedi bod yn achosi niwsans yn y maes parcio wrth i’r bwyty gau. Pan ofynnwyd iddynt adael, dechreuodd y dynion gam-drin yn eiriol ac ymosododd un dyn ar aelod staff, gan achosi anafiadau i’w wyneb.
Mae swyddogion wedi dilyn pob llwybr ymholi posibl, ac rydyn ni’n apelio yn awr am gymorth y cyhoedd.
Hoffent adnabod yr unigolyn yn y llun TCC, a allai fod â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad.
Gofynnir i unrhyw un sy’n adnabod yr unigolyn hwn, neu os ydych chi’n credu mai chi sydd yn y llun, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys, gan ddyfynnu cyfeirnod DPP/0011/02/07/2020/01/C .
Cysylltwch â’r heddlu :
ar-lein ar: http://orlo.uk/847fG,
drwy anfon e-bost at: contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk,
neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |



















