3.4 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Newyddion Lle Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar yr ystadegau...

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur

0
514
251360250.jpg.gallery
251360250.jpg.gallery

Gan gynnig sylwadau ar Ystadegau y Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn dangos yn glir effaith niweidiol y pandemig ar bobl ledled Cymru.

“Fel Llywodraeth Cymru rydyn ni’n parhau i wneud popeth y gallwn i warchod ein busnesau, ein pobl a’n heconomi yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae ein pecyn cynhwysfawr o gymorth busnes, sydd bellach yn werth dros £1.7 biliwn, y cynnig mwyaf hael i gwmnïau o Gymru o gymharu â gweddill y DU. Fel rhan o hyn, lansiwyd yn ddiweddar drydydd cam ein Cronfa Cadernid Economaidd gwerth bron £300 miliwn, felly gellir cefnogi mwy o fusnesau drwy’r cyfnod atal a thu hwnt.

“Bu ein Cronfa Cadernid Economaidd eisoes yn hollbwysig i helpu dros 13,000 o fusnesau amrywiol ledled Cymru, ac mae wedi gwarchod dros 100,000 o swyddi allai fod wedi eu colli fel arall megis Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Joloda Hydraroll ar Ynys Môn a’r cwmni o Lanelwy, TRB Limited.

“Rydyn ni’n gwybod bod busnesau yn wynebu pwysau ac angen rhagor o gymorth, ac rydyn ni yn parhau i edrych ar opsiynau pellach i gefnogi cwmnïau drwy’r pandemig, a hepu iddyn nhw baratoi ar gyfer bywyd wedi i’r cyfnod pontio â’r UE ddod i ben.

“Rydyn ni hefyd yn benderfynol o barhau â’n gwaith i wella lefelau sgiliau ledled Cymru, a byddwn yn cyhoeddi cynlluniau i gefnogi y broses o greu cyfleoedd newydd ar gyfer prentisiaethau yn ddiweddarach yr wythnos hon, fel rhan o’n hymrwymiad o £40 miliwn ar gyfer Covid. Mae ein gwasanaeth arbennig Cymru’n Gweithio ar gael hefyd i roi cyngor ac arweiniad ac i gyfeirio pobl at gymorth di-dâl ar gyfer sgiliau a hyfforddiant i bobl sydd wedi colli eu swyddi neu sydd mewn perygl o golli eu swydd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.