20.2 C
Llanelli
Thursday, August 27, 2026
Home Farming Pori padogau yn helpu fferm laeth i gynhyrchu bron i ddwy ran...

Pori padogau yn helpu fferm laeth i gynhyrchu bron i ddwy ran o dair o’i llaeth o borthiant

0
573
Aled Potts 1
Aled Potts 1

Mae fferm laeth yng Nghymru yn sicrhau 4,100 litr o laeth o borthiant ers iddi wella ei threfniadau rheoli glaswelltir.

Mae Fferm Bryn yn Nhremeirchion, Sir Ddinbych, yn cael ei ffermio gan dair cenhedlaeth – Ivor Hughes, ei fab Dilwyn, a’i ŵyr Aled Potts.

Ymunodd Aled â’r busnes ar ôl astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Llysfasi yn y lle cyntaf, ac yn nes ymlaen, astudiodd rheoli fferm laeth yng Ngholeg Reaseheath, ac roedd yn awyddus i ddefnyddio rhywfaint o’r wybodaeth a ddysgodd.

Mae’r busnes yn mynd trwy’r broses o newid ei phroffil cynhyrchu llaeth o un lle y mae’n lloia trwy gydol y flwyddyn i loia mewn bloc yn yr hydref, a gweithredwyd systemau er mwyn sicrhau mwy o werth o’r borfa a dyfir ar y daliad 81 hectar (200 erw).

Er mwyn cyfrannu at ei benderfyniadau ynghylch rheoli porfa, llwyddodd Aled i sicrhau lle ar raglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio ar ddechrau 2020;  bellach, mae’n aelod o’r Grŵp Llaeth Uwch.

“Roeddem yn dymuno sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn o’r borfa yn niet y gwartheg,” dywedodd Aled, sy’n 27 oed.

Yn flaenorol, porwyd y gwartheg ar sail system pori stribedi, ond gyda chymorth Precision Grazing, hwyluswyr rhaglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio 2020, crëwyd 23 o badogau;  mae rhai ohonynt yn 1 hectar ar gyfer pori 24 awr ac mae eraill yn rhai 0.5 hectar ar gyfer 12 awr.

“Rydym yn targedu 100 o wartheg, felly hwn oedd y rhif oedd yn fy meddwl i pan aethom ati i greu’r padogau,” dywedodd Aled.

Ar hyn o bryd, mae’n cadw 80 o wartheg Freisian, felly tynnwyd rhai o’r padogau hyn allan o’r cylchdro ar gyfer silwair yn ystod tymor pori 2020.

Ar hyn o bryd, mae’r fuches yn cynhyrchu 7,200 litr o laeth fesul buwch/blwyddyn ar gyfartaledd, gyda 4.4% braster menyn a 3.56% protein, a chynhyrchir 4,100 litr yn seiliedig ar borthiant.

Mae’r fferm yn cadw diadell o famogiaid croes-Texel hefyd, a hanerwyd y niferoedd i 200 gan bod nifer y gwartheg yn cynyddu.

Mae hanner y ddiadell yn ŵyna cyn y Nadolig ac mae’r gweddill yn ŵyna yng nghanol mis Ionawr, er mwyn sicrhau bod digon o borfa ar gael i’r gwartheg pan fydd hi’n bryd eu troi allan.

Mae Aled yn mesur y borfa bob wythnos gan ddefnyddio mesurydd plât yn ystod y tymor pori, er mwyn cyfrannu at ei benderfyniadau.

“Nid oeddem yn arfer rheoli’r borfa gystal ag yr ydym yn ei wneud nawr, roeddem ni’n arfer ransio’r caeau, gan ddyfalu ble y byddent yn pori nesaf,” dywedodd.

“Bellach, rydym yn gwybod pa badog y byddwn yn ei bori ymhen saith diwrnod ac os bydd gennym ormod o borfa, rydym yn gwybod bod angen i ni dynnu padogau allan o’r cylchdro.”

Mae Aled yn gwneud defnydd da o’r cymorth parhaus y mae’n ei gael trwy raglen Rhagori ar Bori.  “Rydw i wedi dod i sylweddoli nad oes y fath beth â chwestiwn twp, mae hi wastad yn well gofyn a chael y cyngor cywir, a’r unig beth y mae angen i mi ei wneud yw codi’r ffôn a chael sgwrs gyda’r ymgynghorydd.”

Mae’n dweud bod y rhaglen wedi peri iddo fod yn fwy dewr wrth wneud penderfyniadau. 

“Heb os, byddwn yn ei hargymell i eraill, rydym yn cael llawer mwy o’n porfa ac mae hynny’n beth da i’n cost cynhyrchu,” dywedodd.

Cynhelir cyfnod ymgeisio newydd ar gyfer Rhagori ar Bori rhwng 26 Hydref a 26 Tachwedd 2020.  I fod yn gymwys i ymgeisio, rhaid bod gan ymgeiswyr Gynllun Rheoli Maetholion a luniwyd yn ddiweddar ac os bydd angen cymorth arnynt gyda hwn, fe’u cynghorir i gysylltu â’u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.