7.8 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Newyddion Lle Nifer uchaf erioed yn hyfforddi i fod yn Feddygon Teulu yng Nghymru

Nifer uchaf erioed yn hyfforddi i fod yn Feddygon Teulu yng Nghymru

0
587
Avenue Villa Surgery
Avenue Villa Surgery

Mae ffigurau recriwtio meddygon teulu yng Nghymru wedi cyrraedd y nifer uchaf erioed am y drydedd flwyddyn yn olynol. Cafodd 200 o ddarpar feddygon teulu eu recriwtio eleni, sydd 7% yn uwch na ffigur y llynedd, sef 186.

Bydd 30 o’r hyfforddeion newydd wedi’u lleoli yn y Canolbarth a’r Gorllewin a byddant yn ymuno â chynlluniau hyfforddi arbenigol yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Sir Benfro.

Mae recriwtio 200 o ddarpar feddygon teulu newydd yn gynnydd aruthrol ar y targed gwreiddiol o 136 ond hefyd yn gynnydd ar y dyraniad uwch a gytunwyd y llynedd, sef 160 o lefydd hyfforddiant.

Mae’r darpar feddygon teulu wedi’u recriwtio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sydd wedi sefydlu sawl cynllun yn ystod y blynyddoedd diwethaf i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i hyfforddi a gweithio, gyda chymorth yr ymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw, a lansiwyd yn 2016. Mae’r ymgyrch yn cynnwys dau gynllun cymhelliant ariannol: cynllun wedi’i dargedu sy’n cynnig cymhelliant o £20,000 i hyfforddeion sy’n derbyn swyddi mewn ardaloedd penodedig lle bu’n anodd, yn y gorffennol, i lenwi swyddi, a chynllun cyffredinol sy’n cynnig taliad untro i bawb sy’n hyfforddi i dalu cost sefyll eu harholiadau terfynol. Mae’r gwaith y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi’i wneud yn cynnwys gwella presenoldeb mewn digwyddiadau gyrfaoedd ar gyfer Hyfforddeion Sylfaen a myfyrwyr meddygol a Chwrs Hyfforddi Meddygon Teulu wedi’i gynllunio o’r newydd.

Bu cynnydd amlwg yn y cyfraddau llenwi ar draws Cymru gyfan ac yn benodol yn y cynlluniau hyfforddi yn y Gogledd ac yn y Gorllewin. Bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gynyddu nifer y meddygon teulu sy’n gofalu am gleifion yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Mae recriwtio 200 o hyfforddeion meddyg teulu newydd yn newyddion gwych mewn unrhyw flwyddyn, ond eleni yn fwy nag erioed gwelwyd y gofal hanfodol y mae gweithlu’r GIG a Gofal Cymdeithasol yn ei ddarparu a faint yr ydym yn dibynnu arnynt. Rwy’n falch bod y Canolbarth a’r Gorllewin wedi manteisio o’r nifer fawr o hyfforddeion a recriwtiwyd ar draws Cymru eleni. Mae’r ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol, Hyfforddi Gweithio Byw wedi gweithio gyda phartneriaid flwyddyn ar ôl blwyddyn i sicrhau bod mwy a mwy yn manteisio ar lefydd hyfforddi meddygon teulu, ac mae’r ffigurau hyn yn atgyfnerthu’r neges bod Cymru’n lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw. Rwyf wrth fy modd ein bod ni eto wedi torri recordiau yn ein niferoedd recriwtio a’n bod ni’n gwneud cyfraniad sylweddol i ddarparu gwasanaeth gofal sylfaenol cynaliadwy”


Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru “Yn amlwg rydym wrth ein bodd ein bod wedi recriwtio mwy na’n targed a bod mwy fyth o hyfforddeion yn dewis Cymru fel y lle i hyfforddi, gweithio a byw.

“Bydd ychwanegu’r unigolion hyn at weithlu GIG Cymru yn ein galluogi ni i gynyddu’r capasiti i ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy yn y dyfodol, fel y nodwyd yn y cynllun Cymru Iachach”.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.