10.7 C
Llanelli
Thursday, March 12, 2026
Home hywel dda health board Angen imiwneiddiwr ar frys i ymuno â rhaglen frechu COVID-19 Bwrdd Iechyd...

Angen imiwneiddiwr ar frys i ymuno â rhaglen frechu COVID-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

0
536
Roger Diggle
Roger Diggle

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwneud cais brys i weithwyr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig ymuno â’i dîm Brechu COVID-19.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwneud ei baratoadau olaf i ddarparu rhaglen frechu torfol ar raddfa na welwyd o’r blaen yn y GIG ac mae’n recriwtio ar frys i gytundebau banc a thymor byr.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r ymateb tymor hir i’r pandemig yn ei gwneud yn ofynnol bod brechlyn diogel ac effeithiol ar gael i bawb sydd ei angen.

“Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rydym yn gwneud y paratoadau terfynol i wneud yn siŵr ein bod yn barod i’w gyflwyno i’r bobl yn ein cymuned sydd fwyaf mewn perygl o COVID-19 cyn gynted ag y bydd brechlyn diogel ac effeithiol yn cael ei gymeradwyo.”

Gwnewch gais nawr i’n helpu ni i helpu ein cymuned. Ewch i https://biphdd.gig.cymru/swyddi

Helpu gyda’r rhaglen frechu Darllenwch stori Dr Roger Diggle

Fe wnes i ymddeol fel Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2019 yn dilyn gyrfa fel meddyg teulu, yna Prif Swyddog Meddygol Ynysoedd y Falkland a Chyfarwyddwr Meddygol GIG Shetland.

Ers mis Medi 2019 rwyf wedi bod yn helpu mewn meddygfa am 4 diwrnod y mis fel meddyg teulu locwm.

Rwy’n bwriadu helpu’r rhaglen frechu mewn unrhyw ffordd y gallaf gan fod llwyddiant y rhaglen yn hanfodol i reoli epidemig Covid.

Mae arnom angen cymaint o frechwyr â phosib er mwyn darparu’r nifer fawr o frechiadau mewn cyfnod mor fyr â phosib. Dewch, ymunwch â’r tîm! 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.