8.6 C
Llanelli
Saturday, February 28, 2026
Home hywel dda health board Cam-drin staff y GIG yn gwbl annerbyniol, dywed y bwrdd iechyd

Cam-drin staff y GIG yn gwbl annerbyniol, dywed y bwrdd iechyd

0
640
Ambulanceabuseposter
Ambulanceabuseposter

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi condemnio ymddygiad yr aelodau hynny o’r cyhoedd sy’n cam-drin staff y GIG.

Mae’r bwrdd iechyd wedi datgelu y bu nifer o achosion o’i staff yn cael eu cam-drin wrth weithio yn y gymuned, neu ar wardiau mewn ysbytai.

Cafwyd achosion hefyd o ymarferwyr iechyd cymunedol yn cael eu herio a’u cam-drin am wisgo offer amddiffynnol personol (PPE) wrth fynd allan i weld cleifion, er ei fod yn ofyniad.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, cofnodwyd 61 digwyddiad o drais ac ymddygiad ymosodol tuag at staff ym mis Medi.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad cleifion, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gweld nifer fawr o staff yn adrodd digwyddiadau ohonynt yn profi camdriniaeth gan aelodau’r cyhoedd. Mae staff sy’n gweithio’n galed iawn i ddarparu gofal a thriniaeth yn teimlo’n fwyfwy trist oherwydd cam-drin geiriol, ac weithiau ymddygiad bygythiol a brawychus gan gleifion a pherthnasau, yn enwedig pan ofynnir iddynt adael adran tra bod eu perthynas yn cael ei hasesu.

“Er bod mwyafrif y cyhoedd yn trin staff y GIG â pharch, ac yn gwerthfawrogi’r gwaith anodd iawn maen nhw’n ei wneud mewn amgylchiadau heriol, yn anffodus mae yna nifer o bobl sy’n ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi i staff deimlo mewn perygl. Ni fydd y bwrdd iechyd yn oedi cyn adrodd digwyddiadau o’r fath i’r heddlu.

“Mewn perthynas â COVID-19, er fy mod yn gwerthfawrogi bod rhwystredigaeth ac ofn mewn cymunedau, byddwn yn pwysleisio, os yw pobl yn gweld gweithiwr gofal iechyd yn y gymuned yn gwisgo PPE, nid yw o reidrwydd yn golygu eu bod yn delio ag achos COVID-19. Mae bellach yn arfer safonol gwisgo PPE i amddiffyn ein gilydd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.