14.2 C
Llanelli
Wednesday, March 4, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Digwyddiad hanesyddol ar draws Hywel Dda gyda staff ymhlith y cyntaf yn...

Digwyddiad hanesyddol ar draws Hywel Dda gyda staff ymhlith y cyntaf yn y byd i gael brechlyn Covid

0
508
130704915 3796433850388006 1979160696939072884 o
130704915 3796433850388006 1979160696939072884 o

Roedd e’n foment hanesyddol yn BIP Hywel Dda y bore ‘ma gyda staff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chleifion o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd ymhlith y cyntaf yn y byd i gael y brechlyn COVID-19.

Nicola Drake, Ymgynghorydd yn Uned Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Llwynhelyg, ac Arweinydd Clinigol Meddygaeth Frys, oedd y person cyntaf yn Hywel Dda i gael y brechlyn Pfizer / BioNTech.

Dywedodd: ““Rwy’n gyffrous iawn ac yn teimlo’n freintiedig i fod y person cyntaf yn Hywel Dda i gael y brechlyn Covid-19. Roedd yn hawdd iawn ac ni wnes i deimlo unrhyw beth. Credaf y dylai pob un sy’n gymwys i gael y brechlyn ei gael, yn enwedig os ydych yn un o’r grwpiau risg mwyaf.”

Meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Hywel Dda: “Mae dyfodiad brechlyn COVID-19 yr wythnos hon yn ddigwyddiad ddaw â tro ar fyd, sy’n rhoi gobaith inni ar ddiwedd 2020.

“Rydym ar flaen y gad yn y tirnod hanesyddol hwn yn y pandemig ac yma yn BIP Hywel Dda byddwn yn brechu 975 aelod o staff yr wythnos hon, sy’n anhygoel o ystyried cyflymder y datblygiad hwn.

“Rydym yn gofyn i’n cymuned fod yn amyneddgar gan y bydd yn cymryd nifer o wythnosau i frechu hyd yn oed y bobl hynny o fewn y ddau faes blaenoriaeth cyntaf y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Bydd brechlyn ar gyfer pob person sydd am gael un.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.