10.7 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Newyddion Lle Dathlu’r Traddodiad Mari Lwyd

Dathlu’r Traddodiad Mari Lwyd

0
1302
download 78
download 78

Eleni mae’r Mentrau Iaith yn codi ymwybyddiaeth o draddodiadau hynafol Cymreig yn cynnwys y Fari Lwyd. Fel rhan o’r ymgyrch bydd Stomp y Fari Lwyd yn cael ei chynnal ar-lein i ddathlu’r Hen Galan ar Ionawr 12fed, 2021.

Penglog ceffyl wedi addurno â rhubanau lliwgar a chynfas wen yw’r Fari Lwyd. I ddathlu’r ffaith fod dyddiau tywyllaf y flwyddyn drosodd, a bod y gwanwyn ar y gorwel mae’r Fari fel arfer yn teithio o amgylch cartrefi a thafarndai er mwyn perswadio’r ddaear i ddeffro o drwmgwsg y gaeaf. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r traddodiad hwn mae’r Mentrau Iaith wedi creu fideo digri, diolch i gydweithrediad â Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd), a phecyn gweithgaredd hwyliog i blant. Mae’r ymgyrch hwn yn rhan o gyfres o weithgareddau yn dilyn cydweithio rhwng rhwydwaith y Mentrau Iaith yn genedlaethol.

Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Partneriaethau Mentrau Iaith Cymru;

“Ers misoedd bellach mae tîm o swyddogion y Mentrau Iaith yn cyfarfod i gydweithio a chyd-drafod er mwyn datblygu syniadau. Ffrwyth y cyfarfodydd yw ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth cymunedau o’n traddodiadau hynafol Cymreig, yn cynnwys chwedlau Calan Gaeaf, y Plygain a nawr y Fari Lwyd. Drwy rannu gwybodaeth am y defodau lliwgar a diddorol hyn gobeithiwn gyflwyno’r traddodiadau i gynulleidfa newydd ac ysbrydoli pobl Cymru i ddarganfod mwy am ein hunaniaeth.”

Rhan bwysig o ddefod y Fari Lwyd yw’r Pwnco, sef canu penillion ar stepen drws er mwyn cael mynediad i dŷ neu dafarn. Gan nad yw hyn yn bosib eleni, bydd Stomp y Fari Lwyd yn gyfle i’r cyhoedd gymryd rhan yn y Pwnco ar-lein. Os hoffech chi gystadlu, yr oll sydd angen ei wneud yw ysgrifennu hyd at bedair pennill ar dôn ‘Wel dyma ni’n dŵad’ a gyrru fideo o’ch hun yn eu canu at eich Menter Iaith leol erbyn Ionawr y 5ed. Bydd 9 lwcus yn cael eu dewis i fynd ymlaen i gystadlu yn Stomp y Fari Lwyd dan arweiniad y stompfeistri Anni Llŷn a Tudur Phillips.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.mentrauiaith.cymru/mari-lwyd

DIWEDD


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.