9.3 C
Llanelli
Thursday, March 5, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Menyw yn codi arian ar gyfer y GIG lleol

Menyw yn codi arian ar gyfer y GIG lleol

0
583
Sara Hicks picture
Sara Hicks picture

Ar ôl bod yn sâl iawn ar ôl i’w pendics fyrstio, penderfynodd Sara Hicks godi arian ar gyfer y GIG lleol, i ddweud diolch i’r staff yn Ysbyty Glangwili.

Gofynnodd Sara, 51, rheolwr swyddfa, sy’n byw yn Saundersfoot, i ffrindiau a theulu roi arian yn lle prynu blodau, gan ddweud bod ei bywyd yn ddyledus i’r GIG.

“Deialais 999 yn yr oriau mân mewn poen dirdynnol,” meddai Sara. “Cyrhaeddodd parafeddygon yn fuan gan fy nghludo i Ysbyty Glangwili, a bu’rn rhaid stopio i roi rhywfaint o morffin i mi, gan nad oeddwn i wir yn ymdopi’n dda â’r tyllau yn y ffordd!

“Cefais ofal gan dîm o nyrsys a meddygon ifanc a oedd i gyd mor garedig a thosturiol a cefais lawdriniaeth y prynhawn hwnnw, er ei bod yn ddydd Sul.

“Roeddwn i mewn am oddeutu wythnos ac wedi profi ansawdd gofal heb ei ail, ac yn ystod cyfnod o heriau COVID. Roedd y nyrsys a’r meddygon i gyd yn anhygoel.

“Cefnogwch eich GIG. Fe wnaethant achub fy mywyd a byddant yn parhau i achub llawer mwy bob dydd. ”

Gallwch gyfrannu at ymgyrch Sara yma: www.gofundme.com/f/better-than-a-bunch-of-flowers-thank-you-nhs

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch i Sara, am ei ymdrech codi arian, a’i geiriau a’i chefnogaeth garedig. Mae’n dda clywed ei bod hi’n gwella.

“Mae codwyr arian fel Sara yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cleifion a staff y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

“Os hoffai pobl gyfrannu at Elusennau Iechyd Hywel Dda, gallant wneud hynny yma: https://www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.