Canmoliaeth AGIC i ysbytai maes

0
1239
Ysbyty Enfys Carreg Las
Ysbyty Enfys Carreg Las

Mae dau o’r ysbytai maes ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael canmoliaeth uchel gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Ymwelodd tîm â’r ddau safle capasiti ychwanegol – Ysbyty Enfys Carreg Las yn Bluestone yn Sir Benfro, ac Ysbyty Enfys Selwyn Samuel yn Llanelli – a hwn oedd y tro cyntaf i AGIC archwilio lleoliadau o’r fath.

Archwiliodd yr arolygiad sut mae’r risgiau i iechyd, diogelwch a llesiant cleifion yn cael eu rheoli yn y safleoedd dros dro hyn. Canfu arolygwyr fod prosesau priodol ar waith i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion.

Nododd crynodeb yr adroddiad: ‘Gwelsom dystiolaeth o gynllunio helaeth gan y gwasanaeth wrth baratoi ar gyfer darparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion o fewn amgylcheddau unigryw. Gwelsom dystiolaeth o arweinyddiaeth a staff da a oedd yn ymgysylltu ac yn angerddol yn eu rolau.’

Dywedodd Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Arweinydd Clinigol ar gyfer yr Ysbytai maes: “Mae hyn yn newyddion rhagorol ac yn bwysicach fyth, yn dyst i waith anhygoel ein tîm. Rwy’n falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd ar y ddau safle, sy’n derbyn cleifion i helpu i leddfu pwysau ar yr ysbytai acíwt. Mae’r ysbytai maes yn rhoi’r hyblygrwydd inni symud cleifion allan o ysbytai ar ôl iddynt gael eu hasesu fel rhai nad oes angen mewnbwn meddygol arnynt mwyach, ond mae angen rhywfaint o ofal arnynt o hyd cyn cael eu rhyddhau adref neu i gyfleuster gofal cymunedol.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro AGIC, Alun Jones: “Yn ystod y pandemig COVID-19 rydym wedi addasu ein dull o arolygu i gydnabod y pwysau y mae lleoliadau gofal iechyd yn gweithio oddi tano a’r baich gweinyddol y gall arolygu ei roi ar leoliadau sy’n cael eu arolygu. Rwy’n falch ein bod wedi gallu archwilio dau ysbyty maes yn ddiogel cyn cyfnod y gaeaf a rhoi myfyrdodau yn gyflym ar yr hyn a ganfuom i’r rhai sy’n rheoli’r lleoliadau hyn.”

Mae’r adroddiad arolygu ar gyfer y ddau ysbyty maes ar gael yma: www.hiw.org.uk/hywel-dda-university-health-board


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here