3.4 C
Llanelli
Saturday, March 14, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Mwy na 500 o geisiadau ar gyfer cynllun grant cartrefi gwag gwerth...

Mwy na 500 o geisiadau ar gyfer cynllun grant cartrefi gwag gwerth £10 miliwn

0
952
Lee Waters
Lee Waters

Cyhoeddodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, bod mwy na 500 o geisiadau wedi dod i law i adfywio cartrefi gwag drwy Gynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, cynllun gwerth £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Lansiwyd Cam Cyntaf y fenter flwyddyn yn ôl gan y Dirprwy Weinidog a Chadeirydd Tasglu’r Cymoedd, yn dilyn llwyddiant y cynllun yn Rhondda Cynon Taf.

Mae’r cynllun yn agored i berchnogion cartrefi ar draws ardal estynedig Tasglu’r Cymoedd, sy’n estyn o Sir Gaerfyrddin yn y Gorllewin i Dorfaen yn y Dwyrain. Cafodd y ffiniau eu hestyn y llynedd i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman hefyd.

Bydd Ail Gam y cynllun, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2020, yn sicrhau bod hyd yn oed mwy o fusnesau lleol yn cael eu defnyddio i adfywio cartrefi gwag, gan gymell ymgeiswyr i ddefnyddio mesurau sy’n fwy effeithlon o ran ynni wrth adnewyddu. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i leihau allyriadau carbon ond bydd hefyd yn sicrhau biliau ynni is i breswylwyr y dyfodol.

Bydd rhai o ymgeiswyr y cynllun yn mynd i fyw i’r eiddo a adnewyddir. Bydd rhai eraill yn cael eu prynu i’w defnyddio ar gyfer tai cymdeithasol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gan helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters: “Flwyddyn yn ôl, yn dilyn llwyddiant cynllun Rhondda Cynon Taf, cyhoeddais bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun Grant Cartrefi Gwag gwerth £10 miliwn ledled holl ardaloedd Tasglu’r Cymoedd.

“Mae’n galonogol gweld bod y cynllun yn mynd rhagddo yn dda, gyda thros 500 o geisiadau eisoes wedi dod i law, a llawer mwy i ddod gobeithio. Wrth gwrs, mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb eleni ond, er bod y pandemig wedi achosi oedi o ran y cynllun am fisoedd lawer, yn ogystal â’r llifogydd a effeithiodd ar lawer o ardaloedd y Cymoedd, rydym wedi gweld llawer o gynnydd. Mae’r awdurdodau lleol wedi gweithio’n galed i gyflwyno’r cynllun hwn yn eu hardaloedd ac i ddarparu’r arian cyfatebol i sicrhau ei lwyddiant. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am eu gwaith caled.

“Gyda meini prawf cryfach, a ddatblygom ar y cyd ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, mae’r cynllun hwn nid yn unig wedi adfywio eiddo gwag, ond mae hefyd wedi cefnogi sylfeini ein heconomïau lleol drwy ddarparu gwaith i fusnesau bach lleol yn y sector adeiladu. Mae’r elfen ôl-osod hon hefyd yn golygu bod y cynllun yn cefnogi ein hagenda ddatgarboneiddio, gan leihau biliau ynni ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r cynllun hwn gan Dasglu’r Cymoedd a byddaf yn gweithio’n agos gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu i lywio a datblygu cynlluniau cartrefi gwag ar gyfer Cymru gyfan yn y dyfodol.”

Ymgeisiodd Mike Roberts o Sir Gaerfyrddin ar gyfer Cam Cyntaf y cynllun. Dywedodd: “Roedd fy nhŷ wedi bod yn wag am fwy na dwy flynedd ac roedd gwir angen ei adfer i safon foddhaol.

“Roedd y Cynllun Grant Cartrefi Gwag yn llawer o help ac roeddwn yn gallu gwneud llawer o waith hanfodol i gyd ar unwaith.

“Roedd proses ffurfiol ac ystod o ffurflenni i’w llenwi ond cafodd fy ngrant ei gymeradwyo ac mae’r gwaith wedi’i wneud. Dw i wrth fy modd.”

I fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, rhaid i gartrefi fod wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis. Mae ymgeiswyr hefyd yn cael eu cyfyngu i un grant y person ac mewn achosion lle bydd y gwaith atgyweirio yn costio mwy na £20,000, bydd opsiwn o ymgeisio ar gyfer cynllun Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cymru.

I wneud cais, ewch i: https://llyw.cymru/tasglur-cymoedd-cartrefi-gwag


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.