10.1 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Charity ELUSEN IECHYD YN LANSIO RAS FALŴN RITHWIR

ELUSEN IECHYD YN LANSIO RAS FALŴN RITHWIR

0
473
Tara Balloons Poster Welsh
Tara Balloons Poster Welsh

 

Play

Gyda chyfyngiadau COVID mewn lle, mae codwyr arian yn parhau i chwilio am ffyrdd arloesol i’r cyhoedd gefnogi achosion da, ac mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn falch o lansio her rithwir hwyliog, eco-gyfeillgar, y gall pawb gymryd rhan ynddi. Mae’n cychwyn ar Ddydd San Ffolant, dydd Sul 14eg Chwefror, o Baris, prif-ddinas y cariadon.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian, Elusennau Iechyd Hywel Dda, “Rydyn ni bob amser yn edrych ar opsiynau newydd ac amgen i’n cefnogwyr sydd eisiau rhoi yn ôl a dangos eu gwerthfawrogiad o’r GIG – p’run ai i ddiolch i staff am y gofal eithriadol gawsant hwy neu anwyliaid, neu, fel yr ydym yn ei weld ar hyn o bryd, cydnabyddiaeth gyffredinol am waith eithriadol y GIG trwy’r pandemig Coronafeirws.

Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan rai o’r syniadau creadigol y mae pobl wedi meddwl amdanyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi ein helusen GIG, o heriau corfforol, i werthu eitemau sydd wedi eu gwneud â llaw, ac ymuno yn ein Diwrnod Siwmper Nadolig. Ond, rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl eisiau ffordd hawdd o wneud eu rhan o gysur eu cartref, felly rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni’n cymryd rhan mewn ras falŵn rithwir eco-gyfeillgar am y tro cyntaf ar Ddydd San Ffolant

Am ffi cofrestru o £3, dyrennir balŵn rhithwir i’r cyfranogwyr, y gallant ei bersonoli os dymunant, gyda gwobrau’n cael eu dyfarnu yn ôl y pellter y mae’r balŵns yn ei deithio mewn llinell syth o’r lleoliad lansio rhithwirTŵr Eiffel ym Mharis.

Bydd y ras yn para wythnos o ganol dydd ddydd Sul 14eg Chwefror gyda gwobrau gan gynnwys £500 o arian parod, iPad a tocynnau llyfrau. Bydd Elusennau Iechyd Hywel Dda hefyd yn dyfarnu gwobrau o dalebau rhodd o £50 a £25 am y balŵns a deithiwyd bellaf i gefnogi eu hachos.

Nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gall cefnogwyr gofrestru, a gyda phob balŵn rhithwir yn costio pris rhai cardiau Sant Ffolant, mae Tara yn gobeithio y bydd pobl yn cael eu temtio i fynd i ysbryd y digwyddiad a chofrestru mwy nag unwaith.

Ein thema ar gyfer eleni ywDangoswch gariad tuag at eich elusen GIG’. Rydyn ni i gyd yn gwybod cymaint mae’r cyhoedd wedi gwerthfawrogi gwaith anhygoel ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rhyfeddol trwy gydol yr argyfwng presennol, a byddai’n wych pe bai pobl yn prynu mwy nag un balŵn, efallai fel anrheg i rywun maen nhw’n ei garu, er cof am rywun maen nhw wedi’i golli, neu dim ond i ddangos eu bod nhw’n poeni am ein GIG ar hyn o bryd. “

Anogir busnesau, clybiau a chymdeithasau i gymryd rhan, gan fynd ben ben a’u gilydd i weld pa falŵn aelod o’r tîm sy’n teithio bellaf

Gallwch gofrestru tan 1130 ar 14eg Chwefror 2021 yn www.ecoracing.co/user/page/1191

Elusennau Iechyd Hywel Dda yw Elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’n bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro a’r siroedd sy’n ffinio.

Mae telerau ac amodau llawn y digwyddiad ar gael yn www.ecoracing.co/site/page?view=terms


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.