8.4 C
Llanelli
Monday, February 2, 2026
Home Newyddion Lle Safle Antur £4m Dŵr Cymru i agor yn Sir Benfro yng Ngwanwyn...

Safle Antur £4m Dŵr Cymru i agor yn Sir Benfro yng Ngwanwyn 2021

0
478
Eq MEjgXAAACIho
Eq MEjgXAAACIho
  • Llyn Llys-y-frân i ailagor fel atyniad ymwelwyr sbon ar gyfer iechyd, lles a hamdden
  • Mae buddsoddiad pwysig o £4 miliwn mewn canolfan ymwelwyr a chyfleusterau hamdden yn cael ei ategu gan werth £1.7 miliwn o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru.

Bydd perl arall yng nghoron Sir Benfro’n agor eleni. Mae’r gwaith ailddatblygu yn Llyn Llys-y-frân wedi cynnwys ailwampio ac ehangu’r ganolfan ymwelwyr ac adnewyddu’r caffi’n llwyr. Mae’r datblygiad yn cynnwys adeiladu Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored a Chaban Glan Dŵr er mwyn hwyluso gweithgareddau i gerddwyr, beicwyr a’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon dŵr. Bydd yn cynnwys lle bwyta, ystafelloedd cyfarfod, cyfleusterau newid a llogi beics.

Mae’r buddsoddiad pwysig o £4 miliwn yn y ganolfan ymwelwyr a’r cyfleusterau hamdden yn cael ei ategu gan werth £1.7 miliwn o Gronfeydd Datblygu Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru. Nod rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei arwain gan Groeso Cymru, yw creu 11 o gyrchfannau allweddol ar draws Cymru.

Bydd y prosiect yn creu parc hamdden cyffrous a chanolfan gweithgareddau a fydd yn helpu i gynnal y diwydiant twristiaeth yn yr ardal leol.  Bwriedir i’r safle ar ei newydd wedd ddenu 100,000 o dwristiaid a phobl sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored bob blwyddyn.

Bydd y gweithgareddau awyr agored yn Llys-y-frân yn cynnwys anturiaethau ar y dŵr ac ar y tir. Ar y dŵr, gall ymwelwyr fwynhau hwylio, caiacio, canŵio, pysgota o’r lan neu o gwch, a theithiau cwch yng nghwmni’r gofalwyr. Bydd y gweithgareddau ar y tir yn cynnwys beicio a cherdded yn y goedwig gyda dros 14km o lwybrau i’w harchwilio a Thrac Sgiliau Pwmp newydd sbon. Gall ymwelwyr hefyd ddysgu’r grefft o daflu bwyell a chyllell, sut i danio bwa croes neu roi cynnig ar saethyddiaeth. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys Crazi-Bugz, bygis chwe olwyn oddi ar y ffordd ar gyfer anturiaethwyr ifanc.

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu cyfleusterau gwersylla hefyd, gyda elwa o amwynderau fel bachu trydan, pwyntiau dŵr, toiledau a chawodydd, man golchi llestri a mynediad at brif gyfleusterau’r wefan fel y caffi, parc chwarae a gweithgareddau.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, “Wrth i 2021 ddatblygu, mae angen i bawb ohonom fwynhau’r awyr agored, ailgysylltu â byd natur a mwynhau’r holl fanteision sy’n dod o fod yn agos at ddŵr. 

Bydd cyllid yr UE, yn ychwanegol i’n fuddsoddiad ni, yn caniatáu i ni ddatblygu arlwy gydol y flwyddyn ar gyfer hamdden ac addysg, a chaiff hyn effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol bositif wrth wella iechyd a lles trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i ailagor y gyrchfan gyffrous yma yn Sir Benfro yn 2021. Mae hi’n newyddion bendigedig i’r gymuned leol, ymwelwyr a’r economi twristiaeth yng Nghymru ar ôl 2020 mor anodd.”

Lleolir Llys-y-frân wrth galon tirwedd wledig hyfryd yng nghanol gogledd Sir Benfro wrth droed Bryniau Preseli.  Mae hi tua 11 milltir i’r gogledd o dref sirol Hwlffordd, a 2 filltir i’r de o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Mae hi’n debygol y byddwn ni’n cael ein hannog i barhau i gadw pellter cymdeithasol yn 2021, ac mae mwy nag un fantais iechyd yn gysylltiedig â hynny. Mae angen i lawer ohonom ddianc rhag bywyd trefol a thechnoleg, felly â dros 350 erw i’w crwydro, daw llyn Llys-y-frân yn berl arall yng nghoron Sir Benfro maes o law.

Mae Dŵr Cymru’n gofalu am bortffolio cenedlaethol o atyniadau ymwelwyr fel hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden, sef: Llyn Brenig, Cwm Elan a Llyn Llandegfedd o dan ei frand ‘Anturiaethau Dŵr Cymru’.

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.