22.6 C
Llanelli
Wednesday, July 22, 2026
Home Newyddion Lle Mwy na £1.7 biliwn yn cyrraedd busnesau yng Nghymru

Mwy na £1.7 biliwn yn cyrraedd busnesau yng Nghymru

0
496
251360250.jpg.gallery
251360250.jpg.gallery
Mae busnesau yng Nghymru wedi derbyn dros £1.7bn gan Lywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig.
Mae dros 178,000 o grantiau gwerth cyfanswm o £1bn wedi’u darparu drwy awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweinyddu cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru gan gynnwys y cynllun Ardrethi Annomestig, y Grant Dechrau Busnes a’r Gronfa Ddewisol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, bod y cymorth ariannol hwn wedi bod yn hanfodol i helpu miloedd o fusnesau ledled Cymru a diogelu llawer mwy o swyddi a bywoliaethau a allai fod wedi’u colli fel arall.

Mae’r cyllid yn cynnwys dros £520 miliwn a ddarperir drwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, gyda mwy o daliadau’n cyrraedd cwmnïau bob dydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £50 miliwn i sefydliadau ac unigolion drwy ei Chronfa Adfer Diwylliant.

Datgelodd y Gweinidog hefyd fod arian eisoes yn cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden o’r gronfa benodol i’r sector gwerth £180 miliwn a agorodd ddydd Mercher, 13 Ionawr gyda cheisiadau’n cael eu prosesu’n gyflym.

Mae’r gronfa sector-benodol yn parhau i fod ar agor ar hyn o bryd a gall busnesau ddarganfod a ydynt yn gymwys a gwneud cais drwy fynd i wefan Busnes Cymru.

Amcangyfrifir y gallai’r pecyn cymorth diweddaraf i fusnesau lletygarwch nodweddiadol yng Nghymru sydd â’r hyn sy’n cyfateb â chwe aelod o staff llawn amser fod yn gymwys i dderbyn cyfanswn o rhwng £12,000 a £14,000, sy’n golygu mai dyma’r cynnig mwyaf hael yn y DU.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi pwysau a heriau digynsail ar ein heconomi a’n busnesau.

“Fel Llywodraeth rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ond angenrheidiol i ddiogelu iechyd ein pobl ac rydym yn gwybod bod hyn wedi cael effaith anochel ar ein cwmnïau.

“Dyna pam rydym wedi gweithio’n galed ers dechrau’r pandemig i gael cymorth ariannol i fusnesau sydd ei angen, cyn gynted â phosibl.

“Mae cael mwy nag £1.7 biliwn allan i’n cwmnïau wedi golygu ymdrech enfawr, yn enwedig gan ein hawdurdodau lleol. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am bopeth y maent wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud i’n cefnogi i ddiogelu busnesau.

“Ein pecyn cymorth, sy’n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, yw’r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael i fusnesau, unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â’r gymuned fusnes drwy’r cyfnod anodd hwn ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.