17.2 C
Llanelli
Wednesday, July 22, 2026
Home Local News Gwobr iaith Gymraeg i brentisiaid iechyd

Gwobr iaith Gymraeg i brentisiaid iechyd

0
31

21 Gorffennaf 2026 | 21 July 2026

Mae prentisiaid gofal iechyd, Hanna Griffiths o Bencader (Sir Gaerfyrddin) a Teleri Evans o Lanybydder (Ceredigion), wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion yng Ngwobrau B-WBL eleni yn Abertawe.

Mae Gwobrau B-WBL yn ddigwyddiad blynyddol sy’n tynnu sylw at ymroddiad a chyflawniadau dysgwyr Cymraeg o bob rhan o dde a gorllewin Cymru.

Mae Hanna a Teleri yn brentisiaid gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Enillodd Hanna, sy’n gweithio ar Ward Cadog yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, y wobr gyffredinol ar gyfer y Gymraeg. Mae Teleri yn gweithio yn yr Adran Cleifion Allanol yn Ysbyty Glangwili, ac fe’i henwyd yn ail yn y categori ar gyfer Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg.

Dywedodd Nicola Fourie, Cydlynydd yr Academi Brentisiaeth ar gyfer y Bwrdd Iechyd: “Ar ran yr Academi Brentisiaeth, rydym yn hynod falch o Hanna a Teleri am eu cyflawniadau gwych.”

Mae defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn hanfodol, yn enwedig i’n cleifion sy’n siarad Cymraeg, ac mae’n helpu i wella eu profiadau mewn amgylchedd ysbyty neu glinigol.

“Mae Hanna a Teleri wedi dangos angerdd eithriadol dros hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg, yn y gweithle ac yn ystod eu hastudiaethau yn y coleg. Mae eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad yn ysbrydoli eraill i ddefnyddio, dysgu a chofleidio’r Gymraeg ym mywyd pob dydd.

Dywedodd Lucy Breckon, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith (Iechyd, Gofal a Mentrau Masnachol) yng Ngholeg Sir Benfro: “Mae llwyddiant Hanna a Teleri yn gwbl haeddiannol ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad maent wedi’i ddangos drwy gydol eu prentisiaethau. Maent wedi manteisio ar bob cyfle i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg, gan roi’r cynnig gweithredol ‘Mwy na Geiriau’ ar waith yn weithredol ar y wardiau, a helpu i sicrhau bod cleifion yn cael y cyfle i gyfathrebu yn Gymraeg.”

Dywedodd Janice Morgan, Swyddog Datblygu’r Gymraeg yng Ngholeg Sir Benfro: “Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda Hanna a Teleri. Mae eu brwdfrydedd dros y Gymraeg wedi bod yn amlwg o’r cychwyn cyntaf, ac maent wedi manteisio i’r eithaf ar bob cyfle fel Llysgenhadon y Gymraeg. Maent wedi bod yn glod i’r Coleg ac wedi rhagori yn eu rolau.”

Enillodd Hanna hefyd y Wobr Talent Newydd yng nghystadleuaeth ddiweddar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at ddysgwyr, prentisiaid ac addysgwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a ddwyieithog dros y flwyddyn ddiwethaf.

I gael rhagor o wybodaeth am ba brentisiaethau y gall y bwrdd iechyd eu cynnig i chi, ewch i: Academi Brentisiaeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

a074dbaa57db10f8 org

Swyddfa’r Cyfryngau | Media Office
Cyfathrebu | Communications 
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Hywel Dda University Health Board
mediaoffice.hyweldda@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.