20.8 C
Llanelli
Thursday, June 25, 2026
Home Newyddion Lle Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu prosiect bwyd llwyddiannus mewn ysgolion...

Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu prosiect bwyd llwyddiannus mewn ysgolion yn y cymoedd

0
470
Big Bocs Bwyd project
Big Bocs Bwyd project

Bydd rhagor o ysgolion yn y Cymoedd yn cael mynediad at brosiect bwyd lwyddiannus, sydd wedi ennill gwobrau, sy’n defnyddio chynhwysydd cludo yn ganolbwynt ar gyfer dysgu’n uniongyrchol am fwyd a hefyd yn fan i deuluoedd sydd ar incwm isel ddod i gasglu nwyddau am ddim neu am bris gostyngol.

Mae’r prosiect Big Bocs Bwyd yn ardal Tasglu’r Cymoedd yn helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth gynnar am ddewis bwyd iachus gan gynnig bwyd fforddiadwy i deuluoedd yn y gymuned sydd efallai angen cymorth.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 i sefydlu pump o gynwysyddion cludo BBB ychwanegol ar draws y cymoedd, gan weithio mewn partneriaeth â Pharc Rhanbarthol y Cymoedd.

Yn wreiddiol, cychwynnwyd y cynllun yn Ysgol Tregatwg ac Ysgol Gynradd Oak Field, y Barri, diolch i waith caled y Pennaeth Gweithredol, Janet Hayward, a thimau staff o’r ddwy ysgol. Mae’r prosiect yn gweithredu o gynwysyddion cludo ar dir yr ysgol. Caiff bwyd roi gan archfarchnadoedd a siopau lleol. Mae elusennau megis FareShare, sy’n anelu at leihau tlodi bwyd drwy ailddosbarthu bwyd o ansawdd sydd dros ben gan y diwydiant bwyd, hefyd yn rhan o’r cynllun.

Bydd yr ysgolion canlynol bellach yn elwa ar gist llongau BBB:  Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa ym Merthyr; Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Margaret, Ysgol Gynradd Cwmfelin ac Ysgol Gynradd Garth yn ardal Maesteg; ac Ysgol Feithrin Rhydaman, Ysgol Bro Banw, ac Ysgol Gynradd Rhydaman yn ardal Rhydaman.

Dywedodd Pennaeth Gweithredol Ysgol Tregatwg ac Ysgol Gynradd Oak Field, Janet Hayward, a fydd yn goruchwylio’r gwaith o weithredu’r rhaglen: “Mae’n fraint gallu rhannu llwyddiant y prosiect hwn gyda’r ysgolion eraill hyn a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’r syniad wedi datblygu dros amser i ni, ond bellach mae’n gysyniad y mae modd ei drosglwyddo’n hawdd i leoliadau eraill. Yn ogystal ag ‘ailgylchu’ bwyd o archfarchnadoedd a fyddai’n cael ei daflu fel arall, mae’r prosiect yn cefnogi nifer o agweddau ar y cwricwlwm Iechyd a Lles.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae manteision y prosiect arloesol Big Bocs Bwyd i’w gweld yn glir. Mae datblygu gwell dealltwriaeth am fwyd ymhlith plant yn allweddol er mwyn meithrin hyder ynghylch sut i brosesu a choginio gwahanol fwydydd, a bydd yr adnoddau dysgu sy’n cael eu cynnig yn helpu’r plant i ddeall a gwerthfawrogi’r cysylltiadau rhwng bwyd, natur a’r economi.

“Mae’r prosiect hwn hefyd yn bwysig fel ffordd o gynnig cynnyrch da i deuluoedd yn rhad ac am ddim neu am brisiau fforddiadwy, a fydd o fudd i iechyd a lles pobl.

“Mae’r prosiect eisoes wedi bod yn llwyddiant yn y Barri, ac rwy’n falch iawn bod y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i ni gyflwyno’r prosiect hwn yn ehangach yn ardal Tasglu’r Cymoedd.

“Diben y Tasglu yw gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau ac mae hwn yn un o gyfres o brosiectau, fel ein Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag sy’n caniatáu i gartrefi gwag gael eu defnyddio eto, a’r Fenter Trawsnewid Trefi gan Dasglu’r Cymoedd sy’n ceisio adfywio ein stryd fawr. Diben y gwaith hwn yw creu gwaddol a fydd yn gwella bywyd pobl sy’n byw yn ein cymoedd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here