10.2 C
Llanelli
Thursday, May 7, 2026
Home Newyddion Lle “Defnyddiwch arian dros ben i rewi’r dreth gyngor” – Cynlluniau ar gyfer...

“Defnyddiwch arian dros ben i rewi’r dreth gyngor” – Cynlluniau ar gyfer diwygio’r drefn yn cael eu cyflwyno gan Plaid Cymru

0
430
Adam Price 2016
Adam Price 2016

Heddiw, mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS wedi cyflwyno ymrwymiad ei blaid i ddiwygio’r dreth gyngor pe bai’n ennill etholiad mis Mai, gan annog Llywodraeth bresennol Cymru yn y cyfamser i ddefnyddio ei chronfeydd dros ben i rewi’r dreth ar unwaith.

Gan gyfeirio at yr £800 miliwn o gyllid sydd heb ei gwario yng nghyllideb Llywodraeth Cymru eleni, defnyddiodd Adam Price AS Gwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw yn y Senedd i dynnu sylw at y ffaith y byddai’n costio £100 miliwn i ganiatáu i gynghorau Cymru rewi’r dreth gyngor a gwrthbwyso’r cynnydd cyfartalog o 4.8% a welwyd llynedd.

Gan ddyfynnu disgrifiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid o system treth gyngor Cymru fel “un hen, anflaengar a gwyrdroedig”, nododd Mr Price ymrwymiad Plaid Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar, gan ychwanegu y byddai 20% o aelwydydd ar yr incymau isaf o dan gynigion o’r fath yn gweld arbedion o leiaf £200.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS:

“Mae unrhyw sôn am y pandemig fel y ‘lefelwr mawr’ wedi cael ei chwalu’n llwyr gan y realiti llym sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru.

“Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi canfod bod teuluoedd Cymru wedi cael eu taro gan gyfanswm o £73 miliwn o ôl-ddyledion oherwydd eu bod yn cael trafferth gyda rhent, biliau ynni neu’r dreth gyngor dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae £13 miliwn yn ymwneud yn benodol ag ôl-ddyledion Treth y Cyngor.

“Dyna pam yr wyf wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i ddefnyddio £100 miliwn o’i chronfeydd sydd heb ei gwario o £800 miliwn i rewi’r dreth gyngor ar unwaith, gan wneud iawn am gynnydd cyfartalog y llynedd o 4.8%.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn mynd ymhellach ac yn diwygio’r dreth gyngor i’w gwneud yn decach ac yn fwy blaengar. Byddwn yn ailbrisio, yn cynyddu nifer y bandiau ar ben uchaf gwerthusiadau cartrefi, ac yn sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy cymesur â gwerth eiddo.

“Rydym yn disgwyl y bydd 20% o aelwydydd yn y pumed isaf o ddosbarthiad incwm o dan ein cynigion yn gweld eu treth gyngor yn gostwng mwy na £200.

“Fel y nodwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid sy’n disgrifio model treth gyngor presennol Cymru fel “un hen, anflaengar a gwyrdroedig”, byddai gwneud y dreth gyngor yn gymesur â’r gwerthoedd diweddaraf yn arwain at filiau cyfartalog yn gostwng mwy na £160 ym Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent.

“Byddai hon yn system decach o bell ffordd na’r hyn y mae Llafur wedi’i adael yn ei le ers gormod o amser.”

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here