9.6 C
Llanelli
Friday, February 27, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Academi Brentisiaeth GIG leol yn agor ei drysau

Academi Brentisiaeth GIG leol yn agor ei drysau

0
685
EA3CDA62 71C1 4664 8803867F816B07F5
EA3CDA62 71C1 4664 8803867F816B07F5

Mae Academi Bentisiaeth Hywel Dda unwaith eto yn agor ei drysau i unrhyw un sydd am ymuno â’r GIG – gallai hyn fod yn gyfle i chi wneud gwahaniaeth i ofal iechyd lleol.

Mae rhaglen newydd yr Academi yn lansio heddiw [4 Chwefror 2021] ac mae wedi’i chynllunio i ddarparu cyfleoedd i’n poblogaeth leol sydd eisiau gweithio ym maes gofal iechyd ond efallai nad oes ganddyn nhw’r cymwysterau priodol neu ddim mewn sefyllfa i ennill cymwysterau.

Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod ein rhaglen brentisiaeth wedi dychwelyd eleni; mae’n gyfle anhygoel i bobl sydd eisiau gweithio yn y GIG ac i ddatblygu eu gyrfa.

“Yn dilyn llwyddiant ein rhaglen 2019, rydym wedi ei ymestyn eleni i gynnwys rolau anghlinigol, megis profiad cleifion, gwasanaethau digidol, llywodraethu corfforaethol, gyda sawl un arall yn cael eu datblygu.”

Fel prentis bwrdd iechyd, byddwch yn dysgu yn y gwaith, gan eich galluogi i ddysgu wrth ennill, ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Gall prentisiaethau gymryd rhwng blwyddyn a phedair blynedd i’w cwblhau ac maent ar gael i unrhyw dros 16 oed. Yn ogystal â bod yn y gweithle, byddwch chi’n mynychu’r coleg neu ganolfan hyfforddi i weithio ar eich cymwysterau.

Ymunodd Ryan Davies o Gaerfyrddin â’r cynllun prentisiaeth ym mis Medi 2019 a dywedodd: “Rwyf bob amser wedi mwynhau helpu pobl, felly pan glywais am y cyfle hwn, penderfynais roi cynnig arni. Mae fy lleoliadau wedi bod mewn amryw o rolau gan gynnwys porthorion, arlwyo, domestig, clercio wardiau, cefnogi’r broses brofi COVID-19, ac rydw i nawr yn gweithio fel prentis gofal iechyd yn theatrau yn Ysbyty Glangwili. Rwyf wedi datblygu cymaint o sgiliau newydd o weithio mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol. Mae wedi bod yn brofiad gwych ac rydw i wedi caru pob munud ohono.”

Ychwanegodd Lisa: “Os ydych chi’n credu y gallai’r cyfle gwerth chweil hwn fod ar eich cyfer chi, ewch i’n tudalen we i gael mwy o wybodaeth a sut i gysylltu â ni.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.