11 C
Llanelli
Wednesday, February 25, 2026
Home Newyddion Lle Cyhoeddi Tim Thomas yn Gadeirydd Newydd Propel

Cyhoeddi Tim Thomas yn Gadeirydd Newydd Propel

0
483
IMG 1239
IMG 1239

Etholwyd y Cyng. Tim Thomas yn Gadeirydd Propel, ar ôl cael ei enwebu i’r swydd gan Arweinydd Propel, Neil McEvoy.

Mae’r Cynghorydd Thomas yn olynu Gretta Marshall, a gyhoeddodd yn ôl ym mis Medi y byddai’n camu i lawr yn y flwyddyn newydd.

Mae’r Cyng. Thomas, sy’n cynrychioli ward Ynysawdre ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn Arweinydd Grŵp Propel ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda’i wraig a’i ddwy ferch ifanc.

Mewn datganiad, dywedodd y Cyng. Thomas ei fod eisoes yn sylwi ar gynnydd yn yr aelodaeth ledled Cymru gan bobl sydd wedi’u dadrithio â’r pleidiau sefydliadol. Amlinellodd ei amcanion, sy’n cynnwys datblygu cyfres o bolisïau cyffrous a chefnogi llwyddiant yn etholiadau’r Senedd yn 2021.

“Rwy’n teimlo’n llawn cynnwrf wrth dderbyn y baton gan Gretta. Mae gennyf esgidiau mawr i’w llenwi, ond mae’n amser anhygoel o gyffrous i ymgymryd â’r her o gadeirio’r blaid wleidyddol fwyaf amrywiol, sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru” meddai’r Cyng. Thomas.

“Maes o law byddwn yn lansio cyfres o bolisïau blaengar a gwirioneddol gyffrous. Datblygir y polisïau hyn nid gan felinau trafod nac ymgynghorwyr, ond gan ein haelodau llawr gwlad – wedi eu llunio gan bobl Cymru ar gyfer pobl Cymru. Galwaf ar unrhyw un sydd wedi dadrithio gyda’r system wleidyddol bresennol i ymuno â mi i adeiladu Cymru well.”

Cadeirydd blaenorol Propel oedd y cyn-Gynghorydd Sir o Gaerdydd a gweithiwr GIG, Gretta Marshall, a ychwanegodd:

“Rwyf wedi mwynhau pob eiliad o fod yn Gadeirydd plaid mor egnïol, gan chwarae rhan sylweddol wrth helpu i lansio’r blaid. Fodd bynnag, gwnes i’r penderfyniad ychydig fisoedd yn ôl y byddwn yn sefyll i lawr i ganolbwyntio ar fy nheulu. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Tim yn llwyddiant ysgubol wrth helpu i arwain y blaid yn ystod etholiadau’r Senedd ac edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi’r blaid mewn unrhyw ffordd y gallaf. “

Dywedodd Arweinydd Propel Neil McEvoy:

“Mae Propel yn Blaid wych, sy’n llwyddo i gynnig rhywbeth gwahanol. Hoffwn ddiolch i Gretta am ei gwaith wrth inni sefydlu’r blaid nôl yn y dyddiau cynnar. Ni allwn aros i weddnewid gwleidyddiaeth Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Cyng. Thomas i gyflawni hynny.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.