13 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sydd wedi’u taro gan y...

Arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sydd wedi’u taro gan y llifogydd

0
687
county hall floods web
county hall floods web

Bydd hyd at £2,500 o arian argyfwng gan Lywodraeth Cymru ar gael i fusnesau yng Nghymru gafodd eu taro gan y llifogydd diweddar.

Mae hyn yn dilyn y gofid a’r difrod a achoswyd gan Storm Bella ym mis Rhagfyr llynedd a Storm Christoph ym mis Ionawr.

Busnes Cymru fydd yn gyfrifol am drefnu’r arian a bydd yn helpu busnesau â’u costau trwsio ac adfer, a hefyd â chost rhentu lle newydd a chadw staff.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates: “Fel y deallwn, dioddefodd rhyw 45 o fusnesau yn sgil y llifogydd diweddar yng Nghymru. Felly, ar ben popeth arall y maen nhw’n ei wynebu, mae’r busnesau hyn yn gorfod dygymod â difrod i’w heiddo, eu stoc a’u hoffer ac yn aml yn gorfod delio hefyd â phroses yswiriant gymhleth.

“Mae ein Cynllun Grant Cymorth Llifogydd i Fusnesau yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau sydd wedi teimlo effeithiau llifogydd y stormydd enbyd diweddar.

“Rydym am helpu busnesau sydd wedi dioddef i godi yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl a dyna pam rydym wedi ymateb yn gyflym gyda thaliad o hyd at £2,500 i bob busnes.  Mae hyn yn efelychu’r hyn wnaethom ni adeg y llifogydd mawr llynedd ac y mae’n ychwanegol at y pecyn coronafeirws ehangach.”

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths: “Fel y gwelon ni pwy ddiwrnod, mae llifogydd yn gallu achosi poen enbyd i deuluoedd a busnesau ledled Cymru.  Rwy’n falch iawn felly o weld cyhoeddi’r grant Cymorth Llifogydd i Fusnesau.  Yn dilyn llifogydd llynedd, gwnaethon ni neilltuo rhagor na £5m i awdurdodau lleol allu trwsio amddiffynfeydd rhag llifogydd.  Bydd y grant hwn yn rhoi’r help sydd ei angen ar fusnesau i’w helpu i godi yn ôl ar eu traed.”

Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Busnes Cymru.  I wneud cais, ewch i: https://businesswales.gov.wales/cy/cronfa-cymorth-llifogydd-i-fusnesau 

Bydd yn agored i fusnesau y gallai unrhyw stormydd eraill hyd at ddiwedd mis Mawrth effeithio arnyn nhw, os bydd digon o arian.  Bydd yn rhaid bodloni’r amodau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.