14.8 C
Llanelli
Saturday, September 26, 2026
Home Local News Cymru’n cymryd cam ymlaen o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb systemig...

Cymru’n cymryd cam ymlaen o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldeb systemig wrth basio’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

0
608
Socio economic duty CYM
Socio economic duty CYM

Wrth i Senedd Cymru basio rheoliadau’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol heddiw, dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt ei bod yn foment wirioneddol arloesol yn hanes Cymru.

Dywedodd Jane Hutt:

“Un o’n hamcanion allweddol fel Llywodraeth yw sicrhau ein bod yn creu cymdeithas sy’n fwy cyfartal a theg i bobl Cymru. Wrth i reoliadau’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol gael eu pasio gan Senedd Cymru heddiw yr ydym wedi cymryd cam mawr tuag at atgyfnerthu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. 

Bydd y Ddyletswydd yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus penodedig ledled Cymru yn ystyried sut y bydd y penderfyniadau a wnânt yn helpu i leihau anghydraddoldeb a brofir gan gynifer o bobl yn sgil anfantais gymdeithasol ac economaidd, gan gyfrannu at Gymru fwy cyfartal.

Mae sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ddyletswydd foesol y mae’n rhaid i bob un ohonom ei chymryd o ddifrif. Ni allwn anwybyddu mwyach y problemau y mae pobl yn eu hwynebu. Dyna pam y mae’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol mor hanesyddol. Bydd yn helpu ymhellach i fynd i’r afael â’r ansicrwydd sydd wedi deillio o Ymadael â’r UE a’n hadferiad o COVID-19, gan ein galluogi i ganolbwyntio ar ailadeiladu Cymru decach a mwy ffyniannus.” Mae hon yn foment wirioneddol arloesol yn hanes Cymru.”

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn fecanwaith pwerus i’n helpu i gyrraedd nod Cymru Fwy Cyfartal.

Rhaid inni integreiddio’r ddyletswydd hon â dyletswyddau eraill sy’n bodoli eisoes a meddwl yn gyfannol. Gallwch ddefnyddio’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i lywio eich asesiadau, cynlluniau a’ch amcanion llesiant.

Mae popeth wedi’i gysylltu â phopeth; drwy fynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol, byddwch yn cyfrannu at yr holl nodau llesiant. Peidiwch â’i ystyried fel rhywbeth ychwanego. Yn hytrach dylai fod yn rhan annatod o bopeth a wnewch.”

Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Cyd-lefarydd Cydraddoldeb, Diwygio Lles a Gwrthdlodi CLlLC:

“Mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd yn dod i rym ar adeg pan fo tlodi yng Nghymru yn waeth nag erioed yn sgil pandemig COVID.

Bydd y ddyletswydd yn helpu cynghorau a chyrff cyhoeddus i sicrhau, , eu bod yn ystyried effaith penderfyniadau strategol allweddol ar ganlyniadau i’r rhai sy’n profi anfantais gymdeithasol ac economaidd.

Mae llawer o gynghorau eisoes wedi dechrau ymgorffori’r egwyddorion a’r prosesau sydd ynghlwm wrth y ddyletswydd newydd hon ond bydd yn newid y ffordd y gwneir penderfyniadau, gan sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn rhagweld effeithiau penderfyniadau strategol ar bobl ar incwm isel.

Ei nod yw datgloi potensial y Ddeddf Cydraddoldeb a bydd yn ein helpu i sicrhau Cymru fwy cyfartal.”

Dywedodd y Parch Ruth Coombs, Pennaeth Cymru yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol,

‘Rydym yn croesawu’n fawr y ffaith bod Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid dod â Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol y Ddeddf Cydraddoldeb i rym yng Nghymru.

‘Mae’r ddyletswydd yn darparu sbardun newydd hanfodol i helpu i leihau effaith tlodi. Yr ydym am weld y ddyletswydd yn dylanwadu ar flaenoriaethau strategol a phennu cyllidebau, fel bod cyrff cyhoeddus yn blaenoriaethu lleihau’r anghydraddoldebau mwyaf dybryd a brofir gan bobl yng Nghymru. Os na fyddwn yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn yn awr, bydd yr anfantais a wynebir gan lawer o bobl yng Nghymru yn parhau am genedlaethau i ddod.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.