8.6 C
Llanelli
Sunday, March 8, 2026
Home hywel dda health board Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymestyn ei wasanaeth asesiadau digidol i...

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymestyn ei wasanaeth asesiadau digidol i gleifion Lymphoedema

0
563
download 2021 03 26T142941.368
download 2021 03 26T142941.368

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymestyn ei wasanaeth Asesiadau Digidol ar-lein ar gyfer cleifion Lymffoedema addas ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Asesiadau Digidol yn helpu cleifion i hysbysu eu tîm clinigol am eu hiechyd rhwng apwyntiadau ac ar hyn o bryd fe’u defnyddir yn llwyddiannus yng ngwasanaeth Swyddogaeth y Galon, trawma ac orthopaedeg a gwasanaethau gofal llygaid y bwrdd iechyd.

Bydd cleifion addas sy’n derbyn gofal gan y gwasanaeth Lymffoedema yn derbyn neges destun neu e-bost gyda dolen nhs.my i ffurflen Asesu Digidol gyda chwestiynau am symptomau, iechyd corfforol ac ansawdd bywyd.

Bydd y tîm sy’n gyfrifol am ofal y claf yn gallu adolygu’r wybodaeth a ddarperir yn yr Asesiad Digidol, gan ganiatáu iddynt wirio cynnydd y claf a deall ei iechyd rhwng apwyntiadau.

Mae’r ddolen nhs.my yn y neges destun a’r e-bost yn ddibynadwy ac yn cael ei ddarparu gan DrDoctor, gwasanaeth sydd wedi’i achredu i’r safonau uchaf a osodwyd gan y GIG ar gyfer amddiffyn gwybodaeth gofal iechyd dinasyddion y DU.

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio’n ddiogel yng nghofnod y claf.

Gan y gall lymphoedema fod gyflwr gydol oes, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i’ch helpu chi i reoli’ch cyflwr cronig mor annibynnol â phosib. Mae hyn yn golygu y byddwch chi fel claf yn gweithio mewn partneriaeth â’ch therapydd i reoli’ch lymffoedema yn llwyddiannus; mae’r asesiad digidol hwn yn rhan sylfaenol o’r bartneriaeth honno.

Dywedodd Dr Phil Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “Mae’n wych ein bod yn gallu ehangu’r defnydd o Asesiadau Digidol ar gyfer cleifion addas sydd o dan ofal ein gwasanaeth Lymffoedema.

“Nid yw Asesiadau Digidol yn disodli gofal clinigol. Bydd y wybodaeth a ddarperir trwy’r platfform diogel hwn yn monitro symptomau gartref yn rheolaidd i’n helpu i ddeall eich iechyd yn well a gwneud y defnydd gorau o’r amser a dreulir gyda’ch tîm clinigol. ”

Os yw’ch therapydd wedi’ch adnabod chi fel claf addas i ddefnyddio Asesiadau Digidol byddwch chi’n derbyn neges destun neu e-bost yn awtomatig yn gofyn i chi lenwi’r ffurflen ar-lein rhwng eich apwyntiadau.

Mae’n bwysig bod gennym eich rhif ffôn symudol cywir, enw llawn, cod post, dyddiad geni ac e-bost fel y gallwch fewngofnodi i lenwi’ch ffurflen ar-lein. Os oes angen i chi ddiweddaru eich manylion cyswllt, ffoniwch ni ar 0300 303 9642.

I ddarganfod mwy am Asesiadau Digidol ewch i https://biphdd.gig.cymru/digidol/asesiadau-digidol/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.