15.5 C
Llanelli
Thursday, September 17, 2026
Home hywel dda health board Rhaglen frechu yn dychwelyd i Ynys Bŷr

Rhaglen frechu yn dychwelyd i Ynys Bŷr

0
586
Caldey vaccination scaled
Caldey vaccination scaled

Roedd staff o Feddygfa Dinbych-y-pysgod, practis a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn falch iawn o ddychwelyd i Ynys Bŷr mewn cwch y bore yma i gynnig brechiadau ail ddos i fynachod sy’n byw yno, yn ogystal ag i drigolion cymwys yr Ynys.

Trosglwyddwyd y brechlyn Rhydychen / AstraZeneca yn ddiogel mewn cwch, ynghyd â’r imiwneiddwyr, yn gynnar y bore yma i ddarparu cyfuniad o ddosau brechlyn cyntaf ac ail.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor: “Mae hwn yn bendant yn un o’n clinigau brechu mwy unigryw i gyrraedd ein cymunedau ac rydym yn falch o fod yn dychwelyd.”

Mae Ynys Bŷr yn un o ynysoedd sanctaidd Prydain sydd â threftadaeth fynachaidd hir. Dechreuodd y mynachod Sistersaidd breswylio ym 1929 ac arwain bywyd o weddi a byw’n dawel.

Cyn y pandemig COVID-19, caniatawyd i westeion dydd ymweld â’r ynys yn nhymor yr haf a’r gobaith yw y bydd yr ynys yn ailagor i ymwelwyr dydd yn fuan iawn.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.