10.7 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home hywel dda health board Annog pobl dros 30 oed i gysylltu â’r bwrdd iechyd i gael...

Annog pobl dros 30 oed i gysylltu â’r bwrdd iechyd i gael y brechiad COVID cyntaf

0
418
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0164 scaled
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0164 scaled

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gofyn i unrhyw un dros 30 oed sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gysylltu â’r bwrdd iechyd os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad brechlyn COVID-19 cyntaf eto.

Os ydych rhwng 30 a 49 oed ac nad ydych wedi derbyn apwyntiad, cysylltwch â’r bwrdd iechyd cyn gynted â phosibl.

Y ffordd hawsaf o ofyn am apwyntiad yw trwy ffurflen ar-lein ar wefan y bwrdd iechyd https://biphdd.gig.cymru/ neu https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrhRcpjSFfEpMvfa3YjA3QbpUQjUzOEtTQlVCTUVYSkxFSFMyVzExNTFJVi4u

Gallwch ganslo neu aildrefnu apwyntiad cyfredol, trwy ffonio’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ein polisi yw gadael neb ar ôl felly nid yw’n rhy hwyr i ofyn am frechiad cyntaf os ydych chi mewn grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 neu rhwng 30 a 49 oed. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu apwyntiad i chi yn eich canolfan brechu torfol agosaf. ”

Mae canolfannau brechu torfol yn darparu amgylchedd diogel, lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosibl.

Mae cymorth cludiant ar gael i bobl sy’n methu â mynychu apwyntiad brechu mewn unrhyw fodd arall. Ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 os oes angen cymorth arnoch i ddod i’ch apwyntiad.

Ar ôl i chi gael eich brechlyn, rhaid i chi barhau i weithredu i atal lledaeniad coronafeirws yn y gymuned a pharhau i ddilyn canllawiau COVID-19 (pellhau cymdeithasol, gorchuddion wyneb) i amddiffyn y rhai o’ch cwmpas.

Er na allwch ddal COVID-19 o’r brechlyn, mae’n bosibl eich bod wedi dal COVID-19 a pheidio â sylweddoli bod gennych y symptomau tan ar ôl cael eich brechu. Symptomau amlycaf COVID-19 yw dyfodiad diweddar unrhyw un o’r canlynol:

  • Peswch parhaus newydd
  •  tymheredd uchel
  • colli, neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl

Mae gan rai pobl hefyd ddolur gwddf, cur pen, tagfeydd trwynol, dolur rhydd, cyfog a chwydu.

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod, arhoswch gartref a threfnwch i gael prawf trwy ffonio 119 neu ymweld â https://gov.wales/coronavirus. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am symptomau, ewch i www.111.wales.nhs.uk.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.