17.6 C
Llanelli
Wednesday, August 26, 2026
Home Environmental News Tîm y Parc Cenedlaethol yn cyrraedd y rhestr fer mewn gwobrau Cysylltiadau...

Tîm y Parc Cenedlaethol yn cyrraedd y rhestr fer mewn gwobrau Cysylltiadau Cyhoeddus nodedig

0
422
PCNPA 2 social distancing WEB GRAPHIC
PCNPA 2 social distancing WEB GRAPHIC

Yn fuan, bydd Tîm Cyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn mynd benben â gweithwyr proffesiynol blaenllaw ym maes cysylltiadau cyhoeddus ledled y DU, ar ôl cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Rhagoriaeth y Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig (CIPR).

Mae ymateb Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’r argyfwng wrth ddelio ag effaith pandemig y Coronafeirws wedi cael ei gydnabod fel un o’r cynigion gwych yn y categori ymgyrch Cyllideb Isel Orau, ochr yn ochr â chyflwyniadau gan sefydliadau ac asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus ledled y wlad.

Dywedodd Marie Edwards, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod: “Ar ôl blwyddyn eithriadol o heriol o ran delio ag effaith y pandemig a’r pwysau cysylltiedig mae ymwelwyr wedi’i roi ar y Parc Cenedlaethol, rwyf wrth fy modd bod gwaith caled a chreadigrwydd ein tîm Cyfathrebu wedi cael ei gydnabod mewn gwobr mor nodedig gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant.

“Mae’r tîm wedi gweithio’n ddiflino dros y 12 mis diwethaf i ddatblygu a chyflawni’r Cynllun Adfer Cyfathrebu drwy Covid:19 a’r ymgyrch gysylltiedig, gan ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru, y diwydiant twristiaeth a’n cymunedau lleol i ymateb i heriau’r pandemig.

“Roedd yr ymgyrch wedi’i strwythuro o amgylch tair elfen o weithgarwch:

–          Sicrhau cymunedau lleol mai diogelwch oedd ein blaenoriaeth, a phan oedd yr amser yn iawn i groesawu ymwelwyr, y byddai’r croeso’n gynnes.

–          Ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a meithrin ethos o barch – i’r tir, i gymunedau lleol ac i’n gilydd.

–          Ysbrydoli ein cynulleidfaoedd drwy greu cysylltiad emosiynol â’r Parc Cenedlaethol yn y gobaith y bydd ymwelwyr yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

“Byddwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiant gwaith y llynedd, gan ddatblygu’r ymgyrch #TroedionYsgafn ar gyfer y tymor hwn, i hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol fel cyrchfan eiconig, diogel a chroesawgar i ymwelwyr, ac i annog ymddygiad cyfrifol gan ymwelwyr.”

Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones: “Dylai’r tîm fod yn falch iawn eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gwobrau arbennig hyn, sy’n dilyn blynyddoedd hynod lwyddiannus a buddugoliaethau mewn gwobrau blaenorol, ac yn pwysleisio safon uchel y swyddogion sy’n gweithio i’r Awdurdod.

“Mae Marie a’r tîm wedi profi unwaith eto eu bod yn rhagori wrth gyflawni ymgyrchoedd creadigol a sicrhau canlyniadau arbennig, hyd yn oed gyda’r pwysau ychwanegol o weithredu yn ystod pandemig byd-eang.”

Bydd y tîm yn cael gwybod a ydynt wedi ennill eu categori mewn seremoni wobrwyo a gynhelir o bell ar 17 Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth am fwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel ac yn gyfrifol, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/troedion-ysgafn.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.