13.2 C
Llanelli
Saturday, May 9, 2026
Home Newyddion Lle Annog cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru i gynllunio ymlaen llaw wrth i amserlenni newid

Annog cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru i gynllunio ymlaen llaw wrth i amserlenni newid

0
426
4d04bcf13d51427fa410188f3c139665
4d04bcf13d51427fa410188f3c139665

Rydyn ni’n annog cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru i daro golwg ar fanylion eu taith fis yma gan fod yr amserlen yn cael ei newid ym mis Mai.
Bydd amserlenni newydd yn dod i rym ar draws rhwydwaith reilffyrdd Prydain o ddydd Sul 16 Mai ymlaen.

Er na fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o wasanaethau, dylai cwsmeriaid rheilffyrdd TrC sy’n defnyddio ein gwasanaethau gadarnhau eu hamseroedd gadael, cyrraedd ac unrhyw drenau cysylltu.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, ei bod “bob amser yn synhwyrol cynllunio ymlaen llaw”.

Dywedodd: “Pryd bynnag y byddwch chi’n teithio, dylech wirio eich manylion teithio ymlaen llaw ac ar ddiwrnod y daith ei hun.

“Dydy ein hamserlen ddim yn newid yn sylweddol, ond efallai y bydd yn stori wahanol i gwmnïau eraill, felly peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich trên yn gadael yr un pryd ag y gwnaeth fis diwethaf neu’r llynedd.

“Mae’r mesurau rydyn ni wedi’u cyflwyno i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu teithio’n saffach yn dal i fod ar waith, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld mwy ohonoch chi’n ôl ar ein trenau nawr bod y cyfyngiadau wedi dechrau llacio.”

Rydyn ni’n atgoffa cwsmeriaid sy’n dychwelyd i’r rhwydwaith ar ôl nifer o fisoedd ei bod yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar drenau ac mewn gorsafoedd, oni bai eich bod wedi eich eithrio, a bod yn rhaid i chi brynu tocyn dilys cyn mynd ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru.

Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio ein pecyn Gwirio Capasiti i gael syniad ynglŷn â pha mor brysur mae eu trên yn debygol o fod.

Gall cwsmeriaid brynu eu tocynnau a gwirio manylion eu teithiau yma.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here