9.4 C
Llanelli
Sunday, March 15, 2026
Home Awards Catrin Finch yn datgelu Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T

Catrin Finch yn datgelu Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T

0
559
Catrin Finch scaled
Catrin Finch scaled

Wyneb cyfarwydd i lwyfan Eisteddfod yr Urdd yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T 2021.

Heddiw (Dydd Mawrth, 1 Mehefin), mewn seremoni arbennig oedd yn cael ei darlledu’n fyw o Wersyll yr Urdd Llangrannog yng nghwmni’r beirniad a’r delynores o fri Catrin Finch, datgelwyd mai Alaw Grug Evans o Bontyberem sy’n ennill gwobr Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T.

Alaw Grug Evans

Mae Eisteddfod T ar ei hail ddiwrnod o ddarlledu ar ôl diwrnod gorlawn a llwyddiannus ddoe.

Mae Alaw yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn o gerddoriaeth dim mwy na 3 munud o hyd ar unrhyw thema. Yn ôl y beirniad Catrin Finch, roedd cyfansoddiad y tri a ddaeth i’r brig wedi creu argraff arni, gyda’r ensemble a gyflwynodd Alaw o dan y ffugenw ‘Siarad Mân’ yn “ysbrydoledig”, “gwybodus” a “phrydferth”.

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin mae Alaw yn 19 oed, ac yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Cerddoriaeth yn The Queen’s College ym Mhrifysgol Rhydychen. Er i Alaw gystadlu’n llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd, dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn y cyfansoddi. Cyfansoddodd ‘Pwyll a Rhiannon’ fel rhan o gyfres o bedwar darn sy’n seiliedig ar geinciau’r Mabinogi, a gobaith Alaw yw cyfansoddi’r drydedd gainc yn y flwyddyn nesaf.

Catrin Finch

Yn ei beirniadaeth, meddai Catrin Finch: “Ges i bleser mawr yn beirniadu cystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr eleni, ac i sylweddoli faint o gyfansoddwyr talentog ifanc sydd yma yng Nghymru. Mi roedd o mor galonogol i dystio i safon y cyfansoddi ac i sylweddoli pa mor ‘fyw ac iach’ mae cerddoriaeth ysbrydoledig pobol ifanc o’n cwmpas ni.

“Mi wnaeth ‘Siarad Mân’ ddewis ensemble ychydig yn wahanol – violin, viola, soddgrwth, trwmped a thelyn… Wnaeth lwyddo i greu darlun hefo defnydd o harmonies ac alawon hyfryd a diddorol. Patrymau yn gwehyddu a nodau yn  gweu at ei gilydd. Mi oeddwn i eisiau gwrando ar fwy!”

Ioan Rees

Bydd Alaw yn derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans. Noddwyd y gystadleuaeth hon gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Ioan Rees o Gyffylliog ger Rhuthun a Celt John o Ddolgellau oedd yn drydydd.

Celt John

Gellir dod o hyd i holl ganlyniadau’r ŵyl hyd yma drwy ymweld â’r wefan s4c.cymru/urdd

Bydd Eisteddfod T yn cael ei chynnal gydol yr wythnos hon, 31 Mai – 4 Mehefin. Mae modd ymuno yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda’r hashnod #EisteddfodT.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.