11.8 C
Llanelli
Tuesday, March 17, 2026
Home Education Rownd genedlaethol Cwis Dim Clem National finals

Rownd genedlaethol Cwis Dim Clem National finals

0
515
Gwaun Gynfi Hunaniaith
Gwaun Gynfi Hunaniaith

Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith yn genedlaethol am y tro cyntaf!

Yr wythnos ddiwethaf (07-11/06/2021) fe wnaeth disgyblion ysgolion cynradd dros Gymru gyfan gymryd rhan yn rownd derfynol cenedlaethol Cwis Dim Clem am y tro cyntaf erioed.

Mae Cwis Dim Clem yn gwis Cymraeg hwyliog i blant blynyddoedd 6 ysgolion cynradd Cymru a ddechreuodd yn Sir Gâr yn 2015. Ers hynny mae’r cwis wedi datblygu yn rhanbarthol ac eleni yn digwydd yn genedlaethol am y tro cyntaf. Gwnaeth 17 o ysgolion ar draws Cymru geisio am y marciau uchaf er mwyn cyrraedd y brig.

Ffeinal Menter Gorllewin Sir Gar

Roedd dros 150 o ysgolion a dros 3,000 o ddisgyblion wedi cymryd rhan. Un o’r rhain oedd Heidi, disgybl yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol o ardal Menter Gorllewin Sir Gâr. Dywed;

“Dwi wedi mwynhau dysgu am y wlad dwi’n byw ynddi ac am ei hanes.”

Roedd yr ymateb yn wych ar draws Cymru gyda nifer o ysgolion yn mwynhau cystadlu am y tro cyntaf. Un o’r ysgolion hyn oedd Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen a ddaeth i’r brig yn ardal Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd.

Dywed Lynne Hughes-Williams, athrawes yn Ysgol Gwaun Gynfi;

“Mae’r criw wedi wir mwynhau cymryd rhan yn Cwis Dim Clem. Roedd hi’n braf gweld y tîm yn wên o glust i glust prynhawn ‘ma yn rhannu’r profiad gyda gweddill y dosbarth. Mae hi wedi bod yn flwyddyn mor fflat i’r plant felly mae’n braf gweld y “buzz” na’n ôl.”

Dywed Rhian Davies, Swyddog Datblygu Menter Maldwyn;

“Dyma’r cyntaf i ni gynnal y cwis ym Maldwyn. Roedd pob un o’r 14 ysgol Gymraeg neu Ffrwd Gymraeg yn y sir wedi cymryd rhan, 307 o ddisgyblion i gyd, am y tro cyntaf erioed eleni. Roedd hi’n braf gweld pawb wedi gwirioni a dydyn nhw methu aros tan blwyddyn nesaf!”

Llanrhaeadr ym Mochnant

Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi mewn sesiwn ar lein arbennig i ddisgyblion yr 17 ysgol gyda chyflwynydd ‘Stwnsh Sadwrn’ S4C, Owain Williams.

Bwriad cynnal Cwis Dim Clem yw rhoi’r cyfle i blant ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd hwyliog y tu allan i’r gwersi.

Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Partneriaethau Mentrau Iaith Cymru;

 

“Ry’n ni’n falch iawn o fedru cynnal Cwis Dim Clem yn genedlaethol am y tro cyntaf eleni. Mae’n gyfle gwych i blant gael mwynhau’r iaith a theimlo cyffro cystadleuaeth mewn ffordd ysgafn fel hyn. Ry’n ni’n awyddus bod plant blynyddoedd 6 yn magu perthynas gadarnhaol â’r Gymraeg wrth iddynt ddod i adnabod ffrindiau a chyfoedion newydd eu hysgolion uwchradd, gan roi’r hyder iddynt barhau i siarad yr iaith ar iard yr ‘ysgol fowr’ fis Medi.”

Yr ysgolion yn y rownd derfynol yw:

  • Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

  • Ysgol Brynconin, Llandissilio

  • Ysgol Cerrigydrudion

  • Ysgol Croes Atti, Y Fflint a Shotton

  • Ysgol Cwmbran

  • Ysgol Griffith Jones, San Clêr

  • Ysgol Gwaun Cynfi, Deiniolen

  • Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant

  • Ysgol Llechryd

  • Ysgol Morswyn, Caergybi

  • Ysgol Pant Pastynog

  • Ysgol Pen y Garth, Penarth

  • Ysgol Pencae, Caerdydd

  • Ysgol Pontardawe

  • Ysgol Rhyd y Grug, Aberfan

  • Ysgol Teilo Sant, Llandeilo

  • Ysgol Y Fro, Llangyndeyrn


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.