Cenhedlaeth newydd o gamerâu cylch cyfyng ar y ffordd

0
750
facebook home security cameras
facebook home security cameras

Mae systemau camerâu lleoedd cyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot yn mynd i gael eu cyfnewid am gamerâu cylch-cyfyng digidol modern a fydd yn canolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gweld fod angen adnewyddu’i systemau camera lleoedd cyhoeddus presennol, ac mae’n chwilio am gwmni technoleg arbenigol i wneud y gwaith.

Mae gan system y cyngorsy’n edrych dros leoedd cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirolryw 50 o gamerâu, ac mae’r cyngor yn gofyn am dendrau i adnewyddu’r rhain â rhwydwaith fodern a gysylltir yn ddigidol, a fydd yn gallu cynhyrchu delweddau â diffiniad uwch.

Defnyddir y system CCTV i ddarparu amgylchedd mwy diogel i bawb drwy ddiogelu pobl ac eiddo, rhwystro pobl rhag troseddu a helpu i’w ddatrys pan fydd yn digwydd.

Fel sawl rhwydwaith CCTV awdurdod lleol a ddatblygwyd ynghanol y 1990au, mae’r system angen cael ei hadnewyddu â systemau camerâu digidol erbyn hyn, ac mae proses dendro sy’n chwilio am gontractwr arbenigol i ymgymryd â’r gwaith o gynllunio a gosod ar y gweill.

Cafodd dechrau’r broses dendro ei groesawu gan y Cynghorydd Leanne Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd.

Meddai hi: “Mae ein systemau camerâu’n helpu i wella diogelwch y cyhoedd, helpu’r heddlu i adnabod a lleihau troseddu yn y fwrdeistref sirol a helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dyma un o blith nifer o bethau a ddefnyddir gennym, gan weithio law yn llaw â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot Fwy Diogel i wneud ein cymunedau’n fwy diogel, ac mae’n hanfodol ein bod ni bellach yn dechrau ar y broses o adnewyddu ein system â’r dechnoleg fwyaf diweddar.

“Mae CCTV hefyd yn rhoi presenoldeb gweladwy, ac ar yr un pryd mae’n rhoi cysur i’n cymunedau.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here