13.5 C
Llanelli
Wednesday, September 16, 2026
Home Welsh Government Y Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt newydd yn dechrau ar...

Y Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt newydd yn dechrau ar ei waith

0
464
Rob Taylor
Rob Taylor

Bydd Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt cyntaf Cymru yn amlinellu ei flaenoriaethau heddiw yn dilyn cael ei benodi i’r swydd. Dyma’r swydd gyntaf o’i math yn y DU.
Crëwyd y swydd gan Lywodraeth Cymru, gyda heddluoedd Cymru, i atgyfnerthu’r ymateb i Droseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ledled y wlad.

Mae Rob Taylor, a oedd yn gyfrifol am sefydlu Tîm Troseddau Cefn Gwlad presennol Heddlu Gogledd Cymru, yn dod â thoreth o brofiad i’r swydd, yn enwedig o ran cyfraith bywyd gwyllt ac ymchwiliadau, gan gynnwys yr ymosodiad llif gadwyn erchyll ar y platfform nythu gweilch yn Llyn Brenig ym mis Mai.

Yn ystod ymweliad â Phrosiect Gweilch Dyfi ger Machynlleth heddiw, bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, yn cwrdd â Rob Taylor i drafod ei flaenoriaethau a’i uchelgeisiau ar gyfer y 12 mis nesaf.

Mae canolfan ymwelwyr newydd y prosiect, a agorodd ym mis Mai, wedi cael cymorth cyllid gwerth £250,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r swydd newydd yn bwysig o ran cydgysylltu bywyd gwyllt a gwaith gwledig yr heddlu ac asiantaethau partner allweddol, i leihau troseddau a’u heffaith ar gymunedau gwledig ledled Cymru.

Troseddau yn erbyn da byw, ymosod ar adar ysglyfaethus, tipio anghyfreithlon yn ogystal â dwyn peiriannau fferm, cerbydau a thanwydd yw rhai o’r prif feysydd y bydd y cydgysylltydd yn mynd i’r afael â nhw.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i roi pwerau newydd i’r heddlu i warchod da byw yn well rhag cŵn peryglus a chŵn nad ydynt yn cael eu rheoli drwy’r Bil Anifeiliaid a Gedwir. Mae Rob Taylor wedi bod yn ganolog wrth ddarparu cyngor ar y mater hwn.

Bydd y cydgysylltydd hefyd yn arwain ar Strategaeth Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt gyntaf Cymru ac yn gweithio gyda swyddogion ysgol i helpu plant i ddeall troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn well a sut maent yn effeithio ar gymunedau.

Dywedodd Rob Taylor, Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt: “Mae plismona ein cefn gwlad a diogelu ein bywyd gwyllt yn rhywbeth rwy’n frwd iawn drosto.

“Mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol o ran atal troseddau cefn gwlad, ond mae gennyn ni waith i’w wneud o hyd o ran troseddau fel ymosodiadau ar dda byw a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt.

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag eraill ac at wneud gwahaniaeth cadarnhaol yma yng Nghymru.”

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: “Mae Timau Troseddau Cefn Gwlad ein heddlu yn gwneud gwaith gwych a bydd rôl y Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan yn hanfodol i adeiladu ar eu gwaith.

“Hoffwn i longyfarch Rob Taylor ar ei benodiad i’r swydd bwysig hon. Bydd ei brofiad a’i arbenigedd yn hanfodol er mwyn gwneud newidiadau sylweddol a sicrhau ein bod yn ymateb i droseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn ein cymunedau mewn ffordd gydgysylltiedig, effeithiol ac amlasiantaethol.

“Rwyf hefyd yn falch o gael y cyfle i gwrdd â Rob ym Mhrosiect Gweilch Dyfu ger Machynlleth. Mae’r gweilch bellach wedi ailymsefydlu’n gadarn wrth i’r rheini sy’n dod i Gymru yn yr haf fridio, ac mae niferoedd yn cynyddu. Fodd bynnag, maent yn dal i fod yn destun ymosodiadau, fel y gwelwyd pan gafodd nyth gweilch artiffisial ei chwympo yn Llyn Brenig.

“Rwy’n dymuno’n dda i Rob yn ei swydd newydd ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda fe dros y misoedd nesaf.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.