16.4 C
Llanelli
Wednesday, September 16, 2026
Home News Health News Astudiaeth newydd yn awgrymu bod cyhoedd y DU yn ystyried COVID-19 yn...

Astudiaeth newydd yn awgrymu bod cyhoedd y DU yn ystyried COVID-19 yn fygythiad oherwydd cyfnodau clo

0
510
04 june new
04 june new

Ymchwil wedi’i harwain gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod pobl yn barnu risg y pandemig yn ôl maint yr ymateb

Mae cyhoedd y DU yn debygol o gymryd pandemig COVID-19 yn llai o ddifrif pan fydd cyfyngiadau’n cael eu codi, yn ôl ymchwil newydd wedi’i harwain gan Brifysgol Caerdydd.

Dangosodd seicolegwyr mai’r cyfnod clo ynddo’i hun oedd y prif reswm pam roedd cymaint o bobl yn barod i gadw at y rheolau o’r dechrau – roeddent yn credu bod yn rhaid i’r bygythiad fod yn ddifrifol os yw’r Llywodraeth yn cymryd camau mor ddifrifol.

Ymchwiliodd y tîm o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Essex i’r rhesymau y tu ôl i’r gefnogaeth yn yr arolygon barn i’r camau a gymerwyd. Gwnaeth y tîm gynnal dau arolwg yn y DU*, chwe mis ar wahân, yn ystod 2020. Mae’r canfyddiadau wedi’u cyhoeddi heddiw yng nghyfnodolyn Royal Society Open Science.

Dywedodd y prif awdur, Dr Colin Foad: “Yn rhyfeddol, gwelsom fod pobl yn barnu difrifoldeb bygythiad COVID-19 yn ôl y ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi cyfnod clo – mewn geiriau eraill, roeddent yn meddwl bod yn rhaid i’r sefyllfa fod yn wael os yw’r Llywodraeth yn cymryd camau mor ddifrifol.

“Gwnaethom hefyd weld po fwyaf y gwnaethant ystyried y risg yn y ffordd hon, y mwyaf y gwnaethant gefnogi’r cyfnod clo. Mae hyn yn awgrymu y gall pobl fychanu bygythiad COVID-19 os a phan fydd ‘Diwrnod Codi’r Cyfyngiadau’ yn cyrraedd.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos:

  • Bod pobl o blaid y cyfnod clo ond, eto, yn meddwl bod llawer o’r sgîl-effeithiau’n “annerbyniol” wrth ddadansoddi cost a budd;
  • Bod targedu teimlad personol pobl o fygythiad yn annhebygol o’u gwneud yn fwy o blaid cyfyngiadau.

Dywedodd Dr Foad: “Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld cefnogaeth gyhoeddus gref i gyfnodau clo, ond mae ein hymchwil yn awgrymu bod teimladau pobl wedi gwrthdaro’n llawer mwy na’r hyn y mae’r arolygon barn yn ei awgrymu.

“Er enghraifft, wrth i bobl feddwl am gostau’r polisi hwn, megis y niwed i iechyd meddwl pobl a’r cwtogi ar y driniaeth y gellid ei chael ar gyfer problemau iechyd heb gysylltiad â COVID-19, gwelsom y gallant orbwyso’r manteision.

O ran y canfyddiadau sy’n ymwneud â bygythiad personol, dywedodd: “Er mwyn ceisio cadw cefnogaeth y cyhoedd i gyfnodau clo’n uchel, mae’r Llywodraeth wedi rhoi cynnig ar wahanol strategaethau, gan gynnwys atgoffa pobl COVID-19 yn eu peryglu nhw a’u hanwyliaid.

“Fodd bynnag, rydym yn gweld nad yw teimlad personol y rhan fwyaf o bobl o fygythiad yn effeithio ar eu cefnogaeth i gyfyngiadau. Yn lle hynny, roedd pobl yn ystyried y bygythiad mewn ffordd fwy cyffredinol o lawer, fel y bygythiad i’r wlad gyfan. Felly, mae unrhyw negeseuon sy’n targedu eu teimlad personol o fygythiad yn annhebygol o wella’r gefnogaeth i unrhyw gyfyngiadau pellach mewn gwirionedd.”

Rhybuddiodd yr ymchwilwyr fod risg y byddai barn y cyhoedd a pholisi’r Llywodraeth yn “ffurfio perthynas symbiotig”, a allai effeithio ar sut mae polisïau’n cael eu gweithredu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Lorraine Whitmarsh, Seicolegydd Amgylcheddol o Brifysgol Caerfaddon: “Mae i hyn oblygiadau pwysig i’r ffordd rydym yn mynd i’r afael â risgiau eraill, fel newid yn yr hinsawdd – bydd y cyhoedd yn fwy tebygol o gredu bod problem yn ddifrifol os bydd llywodraethau’n gweithredu polisïau beiddgar i fynd i’r afael â hi.”

Awgrymodd yr Athro Whitmarsh y gallai camau beiddgar gynnwys atal unrhyw waith adeiladu ffyrdd (fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar yng Nghymru) neu rwystro gwaith i ehangu meysydd awyr.

Mae’r ymchwilwyr yn galw am ddefnydd mwy arloesol o ddata arolygon barn yn ystod y pandemig i fesur amrywiaeth a chymhlethdod barn y cyhoedd yn gywir.

Dywedodd Dr Paul Hanel, Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Essex: “Mae data arolygon barn o samplau mawr yn bwysig er mwyn deall beth mae pobl yn ei feddwl. Mae ein hastudiaeth yn dangos ei bod yn hollbwysig gofyn y cwestiynau cywir. Fel arall, dim ond darlun cyfyngedig, a chamarweiniol o bosibl, rydym yn ei gael o ba mor amrywiol, a chroes hyd yn oed, y mae safbwyntiau’r cyhoedd mewn gwirionedd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.