9.8 C
Llanelli
Friday, May 8, 2026
Home Environmental News Bachwch fargen yn y Siop Ail-ddefnyddio yng Nghastell-nedd Port Talbot

Bachwch fargen yn y Siop Ail-ddefnyddio yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
500
d445efb5f386eac514983e96d079c96dffa1209a
d445efb5f386eac514983e96d079c96dffa1209a

Play

Gyda’r haf wedi cyrraedd o’r diwedd a gerddi yn dechrau blodeuo, mae ein siop ail-ddefnyddio yn llawn bargeinion gwych i’ch gardd, yn amrywio o offer i botiau planhigion. Mae ein stoc o nwyddau garddio ail-law ar gael i’w prynu, ond dim ond tra bydd stoc ar gael, felly rydyn ni’n annog trigolion i alw i mewn a gweld beth sydd ar gael.

Ac nid dim ond offer gardd sydd ar gael, mae’r siop yn llawn teganau plant a chyfarpar fel pramiau, beiciau i bob oed, clybiau golff ac offer chwaraeon, yn ogystal â dodrefn, gwydrau, llestri a llawer mwy.

FCC Environment – The FCC Household Waste Recycling Centre at Briton Ferry. Port Talbot, Neath. 25 May 2021.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, FCC Environment ac Enfys yn rhedeg y siop mewn partneriaeth. Does dim angen i chi wneud apwyntiad, dim ond ymweld â’r siop i fachu bargen. Mae’r eitemau sy’n cael eu cyfrannu wedyn yn cael eu gwerthu a bydd rhywfaint o’r elw yn helpu i gefnogi’r elusen ddodrefn leol, Enfys, i ddarparu gwasanaethau allweddol yn y gymuned.”

Mewn ymateb i COVID, mae yna nifer o newidiadau ar waith, yn cynnwys newidiadau dros dro i amserau agor y siop, a rhai mesurau i sicrhau bod staff a’r cyhoedd yn cadw’n ddiogel ac yn dilyn canllawiau cenedlaethol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Bydd y siop Ail-ddefnyddio ar agor 9:30am – 4:30pm 7 diwrnod yr wythnos

Bydd nifer o fesurau ar waith i sicrhau eich diogelwch chi a’n staff:

Bydd cyfyngiad ar faint o bobl all fod yn y siop ar yr un pryd

Rhaid cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr

Bydd system un ffordd yn weithredol

Bydd cyfleusterau diheintio dwylo ar gael

Fe’ch anogir i dalu â cherdyn

FCC Environment – The FCC Household Waste Recycling Centre at Briton Ferry. Port Talbot, Neath. 25 May 2021.

Gallwch ymweld â’r Siop Ail-ddefnyddio heb wneud apwyntiad, ond fyddwch chi ddim yn gallu cael mynediad i’r ganolfan ailgylchu a rhaid i chi barcio yn yr ardal benodol ar gyfer y siop Ail-ddefnyddio.  Os ydych chi eisiau mynediad i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, rhaid i chi archebu lle ar https://www.npt.gov.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here