8.6 C
Llanelli
Sunday, March 1, 2026
Home Home Sêl bendith i brosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer gwerth miliynau o bunnoedd

Sêl bendith i brosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer gwerth miliynau o bunnoedd

0
423
image004 4
image004 4

Bydd Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn hwyluso’r defnydd o dechnolegau a dyluniadau sy’n effeithlon o ran ynni mewn miloedd o gartrefi ledled De-orllewin Cymru fel rhan o brosiect arloesol gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU bellach wedi cymeradwyo prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd o fudd i breswylwyr a busnesau yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot, bydd y prosiect hwn sydd gwerth £505 miliwn yn:

Helpu miloedd o bobl i arbed arian ar eu biliau ynni.

Cyfrannu ymhellach at leihau allyriadau carbon yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.

Gwella iechyd a lles miloedd o breswylwyr.

O fudd i fusnesau cadwyni cyflenwi rhanbarthol.

Trwy weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, datblygwyr preifat a phartneriaid eraill, bydd y prosiect yn defnyddio technolegau a dyluniadau sy’n effeithlon o ran ynni i ôl-osod 7,000 o dai ledled y Dinas-ranbarth fel rhan o’r prosiect, a bydd 3,300 o dai newydd hefyd yn elwa ar hyn.

Mae cael sêl bendith oddi wrth y ddwy lywodraeth yn golygu y gall prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ddechrau manteisio ar fuddsoddiad gwerth £15 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd y camau nesaf yn cynnwys sefydlu tîm prosiect pwrpasol, ynghyd â chronfa cymhellion ariannol ranbarthol wedi’i thargedu a chronfa datblygu’r gadwyn gyflenwi ranbarthol. Bydd canolfan rhannu gwybodaeth mynediad agored hefyd yn cael ei datblygu i rannu dysgu ar draws y rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig: “Mae’n wych bod prosiect arall y Fargen Ddinesig yn ein portffolio gwerth £1.3bn wedi cael cymeradwyaeth lawn ac y bydd yn awr yn dechrau ar y cam cyflawni.

“Yn enwedig gan y gallai’r dechnoleg a ddarperir fel rhan o’r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer helpu i ostwng y biliau tanwydd i lawer o breswylwyr ar draws De-orllewin Cymru, ynghyd â manteision iechyd a llesiant ychwanegol gyda’r nod o leihau’r baich ar y GIG a’n darparwyr gofal cymdeithasol”.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Latham, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’r prosiect arloesol hefyd yn ategu Strategaeth Ynni Adnewyddadwy a Datgarboneiddio Cyngor Castell-nedd Port Talbot wrth ffurfio rhan o ymateb rhanbarthol i ddatganiad Argyfwng Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn 2019.

“Y bwriad yn y lle cyntaf yw profi cysyniad Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn y secto cyhoeddus ar raddfa gymharol fach cyn cynyddu gweithgaredd mewn sectorau eraill. Bydd hyn yn dangos hyfywedd y cysyniad i weddill Cymru a’r DU, gan helpu i greu diwydiant newydd yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.

“Wrth i’r rhanbarth oresgyn Covid-19, bydd ffocws y prosiect ar fusnesau cadwyni cyflenwi rhanbarthol hefyd yn helpu i gyflymu ein hadferiad economaidd o’r pandemig mewn ffordd werdd a chynaliadwy, ar y cyd â llawer o brosiectau eraill ar draws De-orllewin Cymru sydd bellach yn symud ymlaen i’w cyflawni.

“Bydd buddsoddiad y Fargen Ddinesig hefyd yn galluogi gwaith monitro a gwerthuso manwl o ran y technolegau effeithlonrwydd ynni sy’n cael eu cyflwyno gyda gweddill cyllid y prosiect yn dod o raglenni eraill y sector cyhoeddus a’r sector preifat.”

Dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi: “Efallai mai’r ymrwymiadau pwysicaf yn ein rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw ymgorffori ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. Mae hwn yn drawsnewidiad sy’n gallu dechrau yn ein cymunedau lleol, gan ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol ac osgoi gwastraff.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu gwneud hynny mewn ffordd sy’n cefnogi pobl a swyddi; bydd y prosiect hwn nid yn unig yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni, ond hefyd o fudd enfawr i’r gadwyn gyflenwi leol.”

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru: “Mae cyflawni prosiectau trawsnewidiol ledled Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU a dyna pam yr ydym wedi cefnogi bargeinion twf ar draws pob rhan o’r wlad.

“Bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o bobl ar draws De-orllewin Cymru yn ogystal â chyfrannu tuag at ein hymgyrch sero-net erbyn 2050. Mae Bargeinion Twf yn rhyddhau potensial pob rhan o Gymru yn ogystal â chael yr economi i symud wrth i ni ddod allan o’r pandemig.”

Mae’r prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn cyd fynd â nifer o brosiectau eraill y Fargen Ddinesig, gan gynnwys seilwaith digidol, sgiliau a thalent, a chefnogi arloesedd a thwf carbon isel. Mae’r prosiect hefyd yn cyd-fynd â gwaith y Ganolfan Adeiladu Gweithredol ym Mhrifysgol Abertawe, sef canolfan ragoriaeth y DU ar gyfer trawsnewid adeiladu, ac mae’n adeiladu ar y cysyniad dylunio Adeiladau Ynni Gweithredol a gafodd ei harloesi gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio sy’n cynnwys naw o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sydd ar y cyd gwerth dros £1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi’r rhanbarth yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, mae’r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.