14.6 C
Llanelli
Tuesday, October 13, 2026
Home Newyddion Lle CAMGYMERIAD ADOLYGIAD TAL Y GWASANAETH IECHYD YN “ERGYD” I WEITHWYR GIG AR...

CAMGYMERIAD ADOLYGIAD TAL Y GWASANAETH IECHYD YN “ERGYD” I WEITHWYR GIG AR GYFLOG ISEL – PLAID CYMRU

0
417
Rhun ap Iorwerth MS
Rhun ap Iorwerth MS

“Rhaid i Weinidogion Llafur anrhydeddu’r codiad cyflog gwreiddiol a gyhoeddwyd yn gyhoeddus” – Rhun ap Iorwerth AS

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo llywodraeth Lafur o gynnal adolygiad tal methiedig ar ôl iddyn nhw gyhoeddi ar gam y bydd y rhai ar gyflogau isaf yn y gwasanaeth iechyd Cymru yn cael codiad cyflog.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yr wythnos diwethaf y byddai’r tâl cychwynnol i weithwyr iechyd Cymru yn codi i £10.18 yr awr ond heddiw fe gywirodd hynny i £9.50 yr awr – sy’n cyfateb i’r cyflog byw go iawn – a chynigiodd “ymddiheuriadau diffuant am unrhyw ddryswch”.

Dywedodd Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, y byddai’r newyddion yn “ergyd go iawn” i’r gweithwyr ar y cyflog isaf yn y GIG.

Galwodd Mr ap Iorwerth ar Weinidogion Llafur i “fynd i’r afael â’r dryswch ar frys” ac i anrhydeddu’r codiad cyflog gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn gyhoeddus fel cam cyntaf i wir werthfawrogi gweithlu’r GIG.

Dywedodd Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Dyma ergyd wirioneddol i’r gweithwyr ar y cyflog isaf yn y GIG. Yn ystod y pandemig mae’r gweithwyr hyn wedi mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd trwy ddarparu gofal rhagorol ac mewn rhai achosion gwneud hynny heb offer amddiffyn personol digonol.

“Rhaid i Weinidogion fynd i’r afael ar frys â’r dryswch ynghylch yr adolygiad cyflog methiedig hwn ac anrhydeddu’r codiad cyflog gwreiddiol, a gyhoeddwyd yn gyhoeddus fel cam cyntaf i wir werthfawrogi gweithlu’r GIG.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.