15.4 C
Llanelli
Tuesday, October 13, 2026
Home Grants Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn croesawu dau lysgennad cymunedol i...

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn croesawu dau lysgennad cymunedol i ddarparu grantiau yn y dyfodol yng Nghymru

0
570
CommunityFund 3
CommunityFund 3

Heddiw, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yng Nghymru, y byddai dau aelod newydd yn ymuno â Phwyllgor Cymru.

Mae’r rhai a benodir yn cynnwys Trystan Pritchard, Prif Swyddog Gweithredol Hosbis Dewi Sant a Gwenllian Lansdown Davies, Prif Swyddog Gweithredol Mudiad Meithrin.

Byddant yn goruchwylio’r broses o wneud grantiau yng Nghymru ar adeg pan fo’r Gronfa’n parhau i gefnogi pobl a chymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan COVID-19 – gan adeiladu ar a chryfhau’r cysylltiadau, y sefydliadau a’r gwydnwch sy’n galluogi cymunedau i ffynnu.

Trystan Pritchard, o Wynedd, yw Prif Swyddog Gweithredol Hosbis Dewi Sant ac mae wedi meithrin perthynas â sefydliadau ar draws y Trydydd Sector yng Nghymru. Mae hefyd yn Aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae eisoes wedi cadeirio Pwyllgor Cymru ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru.

Wrth ymuno â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, dywedodd Trystan: “Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn bwysicach nag erioed o ran helpu cymunedau yng Nghymru i ddatblygu mentrau newydd, ymateb i heriau newydd a helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith hwn a gobeithio y gallaf helpu i sicrhau bod y prosiectau a’r manteision rhagorol a ddarperir gan y gronfa yn parhau yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”

Yn olaf, Gwenllian Lansdown Davies, o Bowys, yw Prif Swyddog Gweithredol Mudiad Meithrin. Mae hi wedi cael gyrfa mewn sawl maes polisi o wleidyddiaeth gynrychioliadol, i ymchwil o’r blynyddoedd cynnar i addysg uwch, ac mae ganddi ddealltwriaeth gref o ddiwylliant, economi a gwleidyddiaeth amrywiol Cymru.

Wrth groesawu’r newyddion am ei phenodiad, dywedodd Gwenllian: “Mae help Cronfa Gymunedol y Loteri yn gwneud gwahaniaeth i nifer fawr o brosiectau a phobl ledled Cymru. ‘Dwi’n edrych ymlaen at gael cyfle i fod yn rhan o’r gwaith gan wybod nad oes pall ar syniadau gwych am sut i greu cymunedau gwydn sy’n llefydd da i fyw a bod”.

Dywedodd Dr Simone Lowthe-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Cymru: “Rwy’n falch o groesawu Trystan a Gwenllian i Bwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Maent yn dod â chyfoeth o brofiad o’r trydydd sector a’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn enwedig ym maes iechyd, addysg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd eu harbenigedd yn ein gadael mewn sefyllfa well fyth i gael arian y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru.”

Y llynedd dosbarthwyd £31 miliwn mewn 850 o grantiau ledled y wlad, diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.